Mae 30 aelod o dîm gofal Tŷ Hafan yn paratoi i gerdded 25 cilometr o ganol Caerdydd i hosbis yr elusen yn Sili fis nesaf mewn ymgais i godi £10,000.
Bydd yr her ’25km am 25 mlynedd’ yn cael ei chynnal ar 8 Medi ac mae wedi’i chreu gan y tîm gofal eu hunain i nodi 25 mlynedd gyntaf Tŷ Hafan.
Ar gyfer yr her, sy’n cael ei noddi gan Cabot Corporation, bydd timau gofal clinigol a chymunedol Tŷ Hafan yn cerdded o Barc y Rhath yng Nghaerdydd trwy Barc Bute, Bae Caerdydd, Penarth, gan orffen yn hosbis Tŷ Hafan yn Sili.
Eu nod yw codi £10,000 er mwyn cael cerbyd sydd wedi’i addasu’n arbennig i alluogi’r plant a’r bobl ifanc sy’n cael cefnogaeth Tŷ Hafan i fwynhau mwy o gyfleoedd yn y gymuned.
Mae’r Dirprwy Brif Nyrs Meg Fears yn un o drefnwyr yr her 25km am 25 mlynedd. Meddai Meg: “Rhan sylfaenol o’n rôl ni yw cefnogi plant a phobl ifanc i gael yr ansawdd bywyd gorau a chreu atgofion gwerthfawr. Ein huchelgais yw codi arian i gael cerbyd newydd wedi’i addasu i fynd â phlant a phobl ifanc allan ar deithiau a chael mynediad at gyfleoedd gwahanol o fewn y gymuned.”
“Mae hwn yn achos mor arwyddocaol i ni fel tîm hosbis gan ein bod yn teimlo bod pwysigrwydd creu atgofion yn yr hyn a all fod y cyfnod anoddaf yn gwbl hanfodol,” meddai Kat Morris, Nyrs Gofrestredig a chyd-drefnydd yr her.
“Bydd gallu rhoi arian tuag at gost cerbyd newydd sydd wedi’i addasu’n llawn yn rhoi cyfle i blant sy’n preswylio yma allu gwneud y pethau hyn, rydym wedi gweld yr effaith y gall teithiau ei chael, boed hynny’n dro bach ar y traeth neu ymweliad â fferm – mae’r eiliadau bach hyn yn dod â rhywfaint o hwyl i’r hyn y mae’r plant hyn yn ei wynebu bob dydd.”
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw creu atgofion ac y bydd y plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn eu cofio am byth,” ychwanegodd Meg.
“Uchelgais Tŷ Hafan yw cefnogi cymaint o blant a theuluoedd â phosibl. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r tîm nyrsio yn hosbis Tŷ Hafan a chael y fraint o fod yn rhan o’r cyfnodau gwerthfawr hyn.”
“Yn anffodus, mae miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn byw gan wybod bob dydd y bydd bywyd eu plentyn yn fyr,” meddai Claire Horrex, Rheolwr Codi Arian Cymunedol.
“Ar hyn o bryd, maen nhw’n aml yn wynebu hyn heb unrhyw ofal na chefnogaeth. Yn unig. Yn ofnus. Yn ynysig. Uchelgais Tŷ Hafan yw sicrhau pan fydd bywyd plentyn yn fyr, na ddylai aelodau unrhyw deulu orfod ei fyw ar eu pennau eu hunain.”
Cliciwch yma i wneud cyfraniad.