Wnes i erioed wir feddwl y byddai wedi mynd

Wnes i erioed wir feddwl y byddai Tommy wedi mynd. Roeddwn i bob amser yn meddwl: ‘Na, mae hyn yn mynd i fod yn iawn. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd drwyddo. Mae’n erchyll. Ond bydd e’n iawn.’

Rwy’n cofio’n glir y diwrnod y gwnaethon nhw ddweud: “Mae gennym ni un feddyginiaeth arall i roi cynnig arni.” Rwy’n cofio bod ar fy ngliniau ar lawr toiled yr ysbyty, yn gweddïo – gweddïo am yr unig beth oedd ar ôl, mewn gwirionedd.

Kath Keeble Tommy Keeble holding hands

Ein babi gwyrthiol

Tommy oedd ein babi gwyrthiol. Roedden ni wedi bod trwy sawl triniaeth anffrwythlondeb ac roeddwn i’n feichiog gyda gefeilliaid. Ond, yn drist, fe wnes i gam-esgor ac fe gollon ni’r ddau.

Flwyddyn yn ddiweddarach roeddwn i’n feichiog eto. Rwy’n cofio teimlo mor ffodus ac mor hapus ein bod ni o’r diwedd allan ar y daith fawr, hir honno, fel yr oeddwn i’n meddwl bryd hynny.

Ond torrodd fy nŵr ar ôl 27 wythnos ac yn 31 wythnos cafodd Tommy ei eni trwy doriad Cesaraidd brys.

Fe wnaethon nhw roi cynnig ar bopeth

Fe wnaethon nhw roi cynnig ar bopeth y gallen nhw ac roedd Tommy mor ddewr ac yn dipyn o ymladdwr.

Ond roedd mor wael, a phan fethodd y feddyginiaeth olaf, rwy’n cofio bod yn bendant: ‘All e ddim bod mewn poen dim ond oherwydd fy mod i eisiau iddo fod yma. Os yw’n dioddef yna mae angen i ni wneud y peth iawn.’

Rydw i’n mynd i gael dal fy mhlentyn

Doeddwn i erioed wedi gallu dal Tommy, dim ond cyffwrdd ei ben a’i draed yn ysgafn. Roedd wedi ei eni mor gynnar ac ni allai oddef cael ei ddal.

Felly ar y pwynt hwnnw roeddwn i’r teimlo: ‘O, rydw i’n mynd i gael dal fy mhlentyn!’ Ond yna yn syth roeddwn i’n gwybod mai’r tro cyntaf y byddwn i’n ei ddal byddai’r olaf hefyd, yn dechnegol. Pan oedd yn fyw, beth bynnag.

Rwy’n galw Kirsty o Tŷ Hafan yn angel ein teulu oherwydd yn y foment honno fe wnaeth hi ymddangos – rwy’n gwybod nawr, mae’n rhaid bod rhywun o’r ysbyty wedi ei galw hi. A dim ond diolch iddi hi, mae gennym luniau a fideo bach o’n munudau olaf gyda Tommy.

Wrth gerdded allan o ddrysau’r Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig hynny gydag ef – dim ond pan oedd yn iawn yr oeddwn i wedi dychmygu gwneud hynny. Ond roeddwn i’n gwybod bryd hynny: ‘Y gwir yw, rydyn ni’n mynd i mewn i’r ystafell hon ac mae’n mynd i farw. Ac rydyn ni’n mynd i orfod cerdded allan o’r Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig hwn heb fabi.’

Canais Tommy i gysgu a bu farw yn fy mreichiau ar 30 Hydref ychydig ar ôl 6 o’r gloch gyda’r nos. Roedd yn wyth diwrnod oed.

Tommy's Story

Y peth anoddaf

Roedd Kirsty wedi dod â chynfas, paent a phecyn castio i wneud llaw Tommy ac olion traed a chast o’i droed a’r rhain bellach yw fy mhethau mwyaf gwerthfawr, rwy’n eu trysori.

Fyddwn i byth wedi cael y pethau hynny, na’r lluniau a’r fideo, oni bai am Tŷ Hafan a Kirsty.
Mynd â Tommy i’r corffdy oedd y peth anoddaf. Doeddwn i ddim yn gallu cerdded felly fe wnaethon nhw fy rhoi mewn cadair olwyn ac roeddwn i’n ei ddal yr holl ffordd. Roedd pobl yn edrych arnom ni gyda chymaint o dristwch. Ac yna, gorfod ei adael wrth y drws hwnnw a chael fy nghludo yn ôl i ystafell oedd yn wag.

Roedd pawb wedi mynd. Roedd e wedi mynd – ac roedd yn rhaid i mi gario ymlaen, rhywsut.

Roeddwn i eisiau bod gyda Tommy

Trefnodd Tŷ Hafan i mi gael cwnsela ond fe wnaeth fy mywyd chwalu ychydig ac fe wnes i ddod yn wael iawn gyda meddyliau hunanladdol. Roeddwn i eisiau bod gyda Tommy.

Jill, fy nghwnselydd yn Tŷ Hafan sylwodd ar yr arwyddion, a gwnaeth ffrind i mi hefyd. Roedd y ddwy ohonyn nhw mor bryderus amdanaf nes iddyn nhw gysylltu â fy meddyg teulu a wnaeth gydnabod pa mor sâl oeddwn i a chefais fy rhoi ar ward iechyd meddwl.

Yn araf iawn ond yn sicr, a gyda meddyginiaeth a mwy o gwnsela, fe wnaethon nhw fy helpu i sylweddoli nad oeddwn i’n fam ddrwg oherwydd nad oeddwn i eisiau i Tommy fynd.

Heb Jill, fy nghwnselydd yn Tŷ Hafan, heb Kirsty, a heb fy ffrind, fyddwn i ddim yma heddiw.

Mae rhywun yn adnabod fy mhlentyn

Roeddwn i wastad yn ei chael yn anodd oherwydd roedd Tommy yn yr ysbyty, nid yn Tŷ Hafan, felly roeddwn i’n meddwl: “O, allai ddim mynd yno.”

Ond yr eiliad yr es i yno a gweld y rhaeadr a’r cerrig a’r tawelwch, roeddwn i’n gwybod mai Tŷ Hafan yw lle byddwn i’n teimlo’n heddychlon yn cofio Tommy.

Y peth gyda cholli babi fel y gwnaethom ni golli Tommy yw nad yw’r rhan fwyaf o fy ffrindiau a fy nheulu erioed wedi cwrdd ag ef. Maen nhw ond yn gwybod beth rwyf i’n dweud amdanog.

Tommy Keeble bunny and flowersOnd gyda Kirsty a Tŷ Hafan mae yna gysylltiad emosiynol ac atgofion a rennir ac mae hynny mor bwerus. Ac erbyn hyn rwy’n cael fy nghefnogi gan Tracy o Tŷ Hafan hefyd. Fe wnaeth Tracy ein helpu i fynd â chorff Tommy yn ôl o Abertawe i’n cartref ym Merthyr Tudful er mwyn iddo allu bod yn agos atom ni a gwnaeth hi helpu i drefnu’r angladd. Dydych chi byth yn meddwl y gallech chi fod yn cynllunio angladd pan fyddwch chi’n feichiog.

Felly rwy’n teimlo fel bod Tommy yn bresennol yn Tŷ Hafan er nad oedd erioed yno.

Pan ddes i ar gyfer y gwasanaeth coffa cyntaf, lle mae enwau’r plant yn cael eu darllen allan – roedd mor bwerus clywed enwau’r holl blant hyfryd yn cael eu darllen allan.

Tua’r diwedd darllenwyd enw Tommy ac edrychais ar Kirsty a gweld hi’n edrych arnaf ac yn nodio. Ac roedd hynny i mi, fel mam, yn golygu popeth. Oherwydd bod rhywun yn adnabod fy mhlentyn. Mae rhywun yn meddwl, ‘Rwy’n adnabod yr un bach yna.’

Rwy’n teimlo’n drist iawn am bobl nad ydynt yn cael rhywun fel Kirsty. Ni ddylai unrhyw un orfod mynd trwy’r hyn rydw i wedi mynd drwyddo heb rywun fel hi.