Trefnu i ddodrefn gael eu casglu

Oes gennych chi ddarnau mawr o ddodrefn nad oes eu hangen mwyach? Ydych chi eisiau cefnogi plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a chwarae eich rhan i helpu’r amgylchedd hefyd?

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn y siop, ni allwn dderbyn rhoddion dodrefn ar hyn o bryd.

Trefnu Casgliad

Y broses 

1. Edrych ar eich rhoddion

Ni fyddem yn gallu darparu ein hamrywiaeth eang o wasanaethau sy’n newid bywydau heb i’n cefnogwyr hael roi eitemau i ni. Er hyn, mae’n bwysig bod yr holl ddodrefn a gawn yn bodloni’r disgwyliadau. 

Felly, dylech wneud yn siŵr:  

  • Bod gan unrhyw ddodrefn wedi’u clustogi label diogelwch tân arnynt. 
  • Nid oes unrhyw ddifrod mawr i’r eitemau  
  • Bod pob eitem yn gyflawn. 
  • Bod pob eitem yn gweithio’n iawn. 
  • Nid ydych yn rhoi unedau wal mawr, am resymau diogelwch 

2. Cwblhau ein ffurflen casglu dodrefn

Yn syml, defnyddiwch ein  ffurflen casglu dodrefn ar-lein i roi eich manylion personol i ni. Bydd aelod o’n staff wedyn yn cysylltu â chi i drafod y dodrefn rydych chi eisiau ei roi.   

Os ydych chi’n bwriadu rhoi dodrefn wedi’u clustogi, byddwn hefyd yn gofyn i chi anfon llun o’r label diogelwch tân ar eich eitem.

3. Rhoi hwb i’ch rhodd gyda Rhodd Cymorth

Pan fyddwch yn cwblhau ein ffurflen casglu ar-lein, cofiwch roi gwybod i ni os hoffech roi hwb enfawr o 25% i werth eich rhodd o ddodrefn. Mae hyn yn rhywbeth syml iawn y gallwch ei wneud i helpu Tŷ Hafan i gyrraedd a chefnogi mwy o blant â salwch sy’n byrhau bywyd yng Nghymru. 

4. Rydym yn casglu

Os bydd yr aelod o’n staff yn penderfynu bod eich eitemau yn dderbyniol, byddwn yn dod i’w casglu ar ddydd Llun neu ddydd Iau sy’n gyfleus i chi. Yn nes at yr amser, byddwn hefyd yn rhoi slot amser i chi er mwyn sicrhau y byddwch yn gwybod pryd y byddwn yn galw heibio.

5. Teimlo’n falch iawn

Mae rhoi dodrefn diangen yn ffordd wych o gefnogi gwaith Tŷ Hafan sy’n newid bywydau. Byddwn yn defnyddio pob ceiniog a gawn o werthu eich eitemau i ddarparu’r gofal a’r cymorth gorau posibl i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a’u teuluoedd. 

Trefnu Casgliad

Rhowch eich eitemau ail-law

Mae angen eitemau o ansawdd da arnom bob amser i’w gwerthu yn ein siopau, ac yn enwedig dillad i ddynion a menywod. 

Felly, os oes gennych rai eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach, dysgwch sut y gallwch eu rhoi yn un o’n siopau yn ne a gorllewin Cymru. 

I wybod mwy