Wythnos Hosbisau Plant

“Mae’n fy ngofidio i’n fawr ac mae’n torri fy nghalon mewn gwirionedd i feddwl, yn ogystal â ni, bod 9 teulu arall sydd ddim yn cael y cymorth yr ydym ni wedi’i gael” – Jackie Fears, mam Greg.

Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 teulu y gallai ein gofal fod o fudd iddyn nhw y mae Tŷ Hafan yn gallu eu cyrraedd. Mae hynny’n golygu bod yna 9 teulu arall fel un Jackie, nad ydynt yn cael y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt.

Gallwch chi ein helpu i newid hynny. Parhewch i ddarllen i wybod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth.

Wythnos Hosbisau Plant

Beth yw Wythnos Hosbisau Plant?

Mae Wythnos Hosbisau Plant, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ym mis Mehefin, yn amlygu gwaith y 53 o hosbisau plant yn y DU, gan godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi eu gwaith hanfodol. Eleni, bydd Wythnos Hosbisau Plant yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 16 Mehefin a dydd Sul 22 Mehefin.

Yn Hosbis Plant Tŷ Hafan, yr Uchelgais Fawr i ni, pan fydd bywyd plentyn yn un byr, yw na ddylai’r fod yn rhaid i unrhyw deulu ei fyw ar eu pen eu hunain.

O’r teuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda’r realiti na ellir ei ddychmygu y bydd bywyd eu plentyn yn un byr, mae 90% yn gwneud hynny heb gymorth hosbis plant ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod miloedd o deuluoedd yn byw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain ac yn aml heb unrhyw gymorth. Gallwch chi newid hyn. Gyda’ch cymorth chi, gallwn gerdded wrth ymyl pob teulu ssydd ein hangen ni.

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr

Stori Jackie

Yn ystod Wythnos Hosbisau Plant eleni, mae Jackie Fears, yn ddewr, yn rhannu stori ei mab, Greg, a sut mae Tŷ Hafan wedi ei chefnogi hi a’i theulu, ac yn parhau i wneud hynny.

Meddai Jackie, o Bentre’r Eglwys, Pontypridd: “Rwy’n rhannu fy stori oherwydd mae’n torri fy nghalon mewn gwirionedd i wybod bod yna deuluoedd fel ein un ni allan yno sydd ddim yn cael y cymorth yr ydym ni wedi’i gael. Galla i ddim hyd yn oed dechrau dealll sut fyddem ni’n ymdopi â hyn ar ein pen ein hunain.”

Darllenwch fwy am stori Jackie a Greg

Sut gallwch chi gefnogi Tŷ Hafan yn ystod Wythnos Hosbisau Plant?

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi Hosbis Plant Tŷ Hafan yn ystod Wythnos Hosbisau Plant a thrwy gydol y flwyddyn.

Yr holl newyddion diweddaraf gan Tŷ Hafan