Cewch, mae gennym gyfleoedd mewn sawl cymuned ac mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch ble mae swyddogaethau ar gael ar ein tudalen swyddi gwag ar hyn o bryd, neu gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, volunteering@tyhafan.org neu ffoniwch...
Rydym yn gwybod bod sawl rheswm pam y mae gwirfoddolwr yn penderfynu gadael ac yna’n ddiweddarach yn dymuno dychwelyd. Os felly, cysylltwch â ni drwy e-bost, volunteering@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2254. Yna gallwn drafod eich amgylchiadau personol a pha...
Cewch, fe gewch chi wneud cais am sawl swyddogaeth a’u cyflawni, fel gwirfoddoli mewn siop a gwirfoddoli mewn digwyddiad. Golyga hyn efallai y bydd mwy nag un person yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud eich ymholiad cychwynnol.
Os ydych yn ymweld â’r DU ar wyliau ac os hoffech wirfoddoli yn ystod eich arhosiad cewch wirfoddoli gyda ni am uchafswm o 30 diwrnod. Wrth wneud cais, rhowch eich cyfeiriad yn DU yn y maes ‘Cyfeiriad’ ar ein ffurflen...
Rhowch wybod os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd neu anghenion ychwanegol y mae angen i ni wybod amdanyn nhw a allai gael effaith ar eich gwaith gwirfoddol. Yna cawn weld sut y gallwn ni eich cefnogi orau i’ch helpu chi...
Ystyriwn bob cais yn deg ac yn gyfartal. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym yn syth am unrhyw euogfarnau a gewch chi yn ystod eich cyfnod yn gwirfoddoli ar gyfer Tŷ Hafan.
Cewch wrth gwrs. Galwch i mewn neu ffoniwch eich siop leol a siaradwch â’r rheolwr yno. Bydd yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau a chael sgwrs anffurfiol gyda chi.
Wrth gwrs. Mae gennym ni ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli nad ydyn nhw angen ymrwymiad rheolaidd gennych chi. Pan fyddwch yn gwneud cais i wirfoddoli, byddwn yn gofyn i chi pryd fyddwch ar gael a’r oriau sydd orau gennych chi...