Faint o’r gloch mae cofrestru yn agor ar gyfer y Ras Dywyll?
Mae'r cofrestru yn agor am 5.45pm.
Lle mae’r babell gofrestru ar gyfer y Ras Dywyll?
Mae'r babell gofrestru ym mhentref y digwyddiad
Beth sy’n digwydd wrth gofrestru?
Pan fyddwch yn cyrraedd pentref y digwyddiad, dewch i'r babell gofrestru i ddangos eich cadarnhad archebu - sicrhewch fod y cod QR yn barod i'w sganio. Bydd pob cyfranogwr yn cael band arddwrn wedi'i rifo. Yna byddwch yn gallu casglu eich ffon olau a byddwch yn barod ar gyfer eich Ras Dywyll!
Pa mor gynnar ddylwn i gyrraedd y Ras Dywyll?
Gallwch gofrestru o 5.45pm a gadewch amser i barcio a cherdded i'r pentref digwyddiad.
Lle ydw i’n cael fy medal ar ôl y Ras Dywyll?
Dychwelwch eich band arddwrn (band arddwrn i oedolion yn unig) i'n tîm o wirfoddolwyr yn y stondin fedalau a dŵr ym mhentref y digwyddiad yn gyfnewid am eich medal(au).
A oes cod gwisg ar gyfer y Ras Dywyll?
Nid oes cod gwisg. Anogir gwisg ffansi ond rhaid iddo fod yn addas ar gyfer y tywydd ac i gwblhau'r llwybr. Mae unrhyw beth sy'n goleuo yn y tywyllwch yn cael ei annog!
Beth sydd angen i mi ddod gyda fi i’r Ras Dywyll?
Mae'n rhaid i bawb sy'n cymryd rhan wisgo tortsh pen er eich diogelwch eich hun gan y bydd y digwyddiadau yn digwydd pan fydd hi'n dywyll. Ni fydd cyfleuster gollwng bagiau felly mae'n rhaid cadw popeth gyda chi drwy’r amser.
Pryd mae’r ceisiadau yn cau ar gyfer y Ras Dywyll?
Bydd ceisiadau'n cau ar y dydd Iau cyn pob digwyddiad.
Faint o arian ddylwn i ei godi ar gyfer y Ras Dywyll?
Rydym yn gofyn i chi godi o leiaf £50 fesul teulu, i gefnogi gwaith Tŷ Hafan gyda phlant a'u teuluoedd yn yr hosbis ac yn y gymuned.
Beth yw’r rheolau yn y Ras Dywyll?
Byddwch yn ystyriol o'r holl gyfranogwyr eraill, rhowch rybudd os ydych yn mynd heibio person arall. Siaradwch â swyddog os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw adeg.
Sut mae’r Ras Dywyll yn dechrau?
I sicrhau bod digon o le ar y llwybr, bydd y cyfranogwyr yn cael eu cychwyn mewn tonnau. Byddwch chi'n gweithio gyda'ch gilydd fel grŵp teuluol.
A ganiateir olwynion yn y Ras Dywyll?
Dim ond cadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a phramiau sy'n cael eu caniatáu. Dim sgwteri, beiciau, sglefrfyrddau na ‘rollerblades’ os gwelwch yn dda.
A yw llwybrau’r Ras Dywyll wedi’u marcio?
Bydd swyddogion, conau a saethau yn eich cyfeirio ym mhob rhan o’r llwybr.
Pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau Ras Dywyll?
Rydym yn amcangyfrif y bydd hi'n cymryd 20 – 55 munud i gwblhau'r llwybr. Ewch ar gyflymder rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud.
A fydd lluniaeth ar gael yn y Ras Dywyll?
Bydd gwerthwr coffi ar gael fel y gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
Beth sy’n digwydd os na allaf ddod ar y diwrnod?
E-bostiwch events@tyhafan.co.uk os na allwch fod yn bresennol.
Faint o’r gloch mae cofrestru yn agor ar gyfer y Ras Dywyll?
Mae'r cofrestru yn agor am 5.45pm.