Y Ras Dywyll

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein digwyddiadau Rhedeg Dywyll ar draws De Ddwyrain a Gorllewin Cymru wrth godi arian ar gyfer Tŷ Hafan.

Gobeithiwn eich gweld yn fuan iawn am fwy o Dark Runs.

Dark Run Ty Hafan Event

Beth yw’r Ras Dywyll?

Cyfres newydd sbon o rasys hwyl yw’r Ras Dywyll i gefnogi Tŷ Hafan dros yr hydref! Wrth iddi ddechrau tywyllu yn gynharach, byddwn ni’n goleuo rhai o hoff leoliadau Cymru er mwyn creu profiad arbennig.

 

Bydd pob Ras Dywyll tua 2.5 cilomedr o hyd ac yn addas i’r teulu i gyd. Lleoliadau eleni yw:

Castell Cyfarthfa

Dewch i weld Castell a Pharc Cyfarthfa fel na welsoch chi nhw erioed o’r blaen!

28.10.2023

Ynys y Barri

Bydd llwybr y Ras Dywyll hon yn dechrau wrth i chi fynd o dan y cysgodfannau gorllewinol a dwyreiniol fydd wedi’u goleuo yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.

10.11.2023

Bae Abertawe

Bydd y ras hwyl 3.5k hon yn dechrau tu ôl i’r Ganolfan Ddinesig a bydd yn mynd â chi tuag at y Chwarter Morwrol. Bydd y llwybr yna’n mynd yn ôl at y promenâd a’r holl ffordd i Secret Beach Bar and Kitchen, cyn mynd â chi yn ôl i’r cychwyn.

18.11.2023

Mae hwn yn ddigwyddiad gwych i deuluoedd o bob oed, grwpiau o ffrindiau a chydweithwyr a rhedwyr ar eu pen eu hunain.

Gallwch wisgo gwisg Calan Gaeaf neu ddillad lliwgar os hoffech chi… rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny! Bydd y person yn y wisg orau yn ennill gwobr.

Ar y dydd

Bydd pentref y digwyddiad yn agor 45 munud cyn i'r ras hwyl ddechrau

Byddwn yn rhoi ffon olau a photel o ddŵr i chi pan fyddwch yn cofrestru ac wedyn byddwch yn mynd draw at y llwyfan i gynhesu fyny

Pan fyddwch yn gorffen y ras, byddwch yn cael medal arbennig sy'n tywynnu yn y tywyllwch

Mae amseroedd pob digwyddiad yn wahanol felly edrychwch ar fanylion y digwyddiad rydych chi wedi'i ddewis isod

Y Ras Dywyll

Ffioedd  

Oedolion: £10.00 

Plant (o dan 16): £5.00 

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan. Caiff pob oedolyn fod yn gyfrifol am uchafswm o dri o blant. 

Codi arian

Y peth gorau am y ras hwyl yw’r ffaith y byddwch yn newid bywydau.

Bydd eich ffioedd a’ch arian nawdd yn helpu plant a theuluoedd ledled Cymru sydd angen cymorth drwy heriau cyflyrau sy’n byrhau bywyd, gofal diwedd oes a phrofedigaeth.

Nid oes isafswm arian nawdd y mae’n rhaid i chi ei godi i gymryd rhan, a bydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi arian cyfatebol am bob £1 a godir. Mae hynny’n golygu os byddwch yn codi £5.00, bydd Principality yn rhoi £5.00 gan wneud cyfanswm o £10.00!

Eich cefnogi chi bob cam o’r ffordd

Os ydych chi yn godwr arian profiadol neu’n ystyried gwneud eich her gyntaf, byddwn ni yma i chi bob cam o’r ffordd.

Gall ein Tîm Codi Arian profiadol ateb eich holl gwestiynau, rhoi hwb i chi pan fo angen, a gwneud digwyddiadau yn llawer iawn haws.

Felly, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar events@tyhafan.org neu 029 2053 2255. Mae ein hoff bynciau yn cynnwys gwybodaeth fannwl am ddigwyddiadau penodol a chyngor am godi arian.

Dewiswch eich lleoliad isod:

Ynys y Barri

Bydd llwybr y Ras Dywyll hon yn dechrau wrth i chi fynd o dan y cysgodfannau gorllewinol a dwyreiniol fydd wedi’u goleuo yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.

Bae Abertawe

Bydd y ras hwyl 3.5k hon yn dechrau tu ôl i’r Ganolfan Ddinesig a bydd yn mynd â chi tuag at y Chwarter Morwrol. Bydd y llwybr yna’n mynd yn ôl at y promenâd a’r holl ffordd i Secret Beach Bar and Kitchen, cyn mynd â chi yn ôl i’r cychwyn.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei noddi yn hael iawn gan Gymdeithas Adeiladu Principality.

Principality building society