Sut gallwch chi ein cefnogi 

Yr anrhegion rydych chi’n eu rhoi, yr arian rydych chi’n ei godi, yr amser rydych chi’n ei wirfoddoli. Mae’r cyfan yn pweru ein gofal a’n cymorth arbenigol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. 

Chi yw’r archarwyr sy’n helpu i leddfu pwysau di-baid, gwneud yr amhosibl yn bosibl a chreu llawer o lawenydd. 

Cefnogi ni

Codi Arian i Tŷ Hafan 

Trefnwch eich digwyddiad codi arian eich hun. Cymerwch ran yn un o’n heriau. Codwch arian yn eich gwaith, eich ysgol neu’ch cartref. Mae sawl ffordd o godi arian ar gyfer Tŷ Hafan. 

A beth bynnag rydych chi’n dewis ei wneud, peidiwch ag anghofio y byddwn ni yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd. O gyngor arbenigol, i awgrymiadau codi arian gwych, i adnoddau hynod ddefnyddiol, rydym ni yma i chi. 

Codi arian

Cymryd rhan mewn digwyddiad

I godi arian hanfodol ar gyfer Tŷ Hafan, gallech gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau rhedeg, beicio neu gerdded, neu ddigwyddiad a drefnwyd gan sefydliad arall, fel Marathon Llundain.  

Neu beth am drefnu eich digwyddiad eich hun i gefnogi ein gwaith sy’n newid bywydau? Mae’n ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd a gwneud rhywbeth sy’n rhoi boddhad gwirioneddol gyda theulu a ffrindiau. 

Dod o hyd i'r digwyddiad i chi

Cefnogwch ni fel 

There are so many ways you can support Tŷ Hafan, whether it be on your own, with a group of friends, your business or school. We are here to help you every step of the way.

Gadael anrheg yn eich ewyllys 

Trwy adael anrheg werthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod ein gwasanaethau sy’n newid bywydau o fudd i lawer mwy o deuluoedd ymhell i’r dyfodol. 

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim a chanllawiau hawdd eu dilyn i wneud yn siŵr bod diweddaru ewyllys sy’n bodoli eisoes neu greu un o’r newydd mor ddidrafferth â phosibl. 

Dysgu mwy am anrhegion mewn ewyllys

Dod yn wirfoddolwr arwrol 

Mae dod yn un o’n gwirfoddolwyr yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a helpu bywydau byr i fod yn fywydau llawn. 

Byddwn hefyd yn rhoi llawer o gefnogaeth ac arweiniad personol i chi er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn cael profiad gwirfoddoli pleserus a gwerth chweil gyda ni. 

Dod o hyd i'r rôl wirfoddoli i chi
Loteri

Mae ein loteri Crackerjackpot yn rhoi cyfle i chi ennill 81 o wobrau wythnosol ac ennill hyd at £12,000. Mae wir yn ffordd wych o gefnogi ein gwasanaethau hanfodol a rhoi hwb i’ch balans banc. 

handcrafted-tyhafan
Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Use your creative skills to make new products and upcycle preloved items in our welcoming Handcrafted workshop.

donate-preloved-items
Rhoi nwyddau

If you’d like to donate some items at one of our shops in south and west Wales, please read our easy-to-follow guidance first.

Gwirfoddoli gyda Tŷ Hafan

At Tŷ Hafan, there are many ways you can support our life-changing services as a volunteer. From working in one of our shops, to tending our hospice’s gardens, to helping out at a Tŷ Hafan event.

Ein newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau, ein hymgyrchoedd, ein digwyddiadau, y plant a’r teuluoedd gwych rydyn ni’n eu cefnogi a’n cefnogwyr anhygoel.

Darllen ein newyddion diweddaraf
19.04.2024

Ein huchelgais mawr

Ers i ni ddechrau cefnogi teuluoedd yn 1999, mae Tŷ Hafan wedi cefnogi 1,097 o blant a theuluoedd d
Cai's story front cover
19.04.2024

Stori Cai

Roedd Matthew a Micaela yn 21 oed pan gawson nhw eu bachgen bach, Cai. Heb fawr o dro, trodd y llawe
19.04.2024

Newyddion gan ein gwasanaethau gofal

Sbotolau ar… Jemma ein Nyrs Glinigol Gofal Newydd-anedig Arbenigol Yn ein rhifyn diwethaf, gwn
Amy Campbell
19.04.2024

Diwrnod ym mywyd… Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd

Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn rhan allweddol o’n Tîm Llesiant ac Allgymorth i Deuluoedd. Y
19.04.2024

‘Amdanaf i’ gan Pavil

Cefais i fy ngeni gyda nifer o broblemau meddygol, gan gynnwys clefyd cronig yr arennau ac anghysond