Gofal seibiant byr

Rydym yn deall yn llwyr y gallai fod angen seibiant arnoch weithiau o effaith corfforol ac emosiynol gofalu am eich plentyn. 

Yn ein hosbis glyd a chroesawgar, gallwch adael eich plentyn yn ein dwylo arbenigol am ychydig ddyddiau, neu gallwch chi a’ch teulu aros yn yr hosbis hefyd. 

Gofal seibiant byr

Sut gallwn ni eich cefnogi chi

Efallai y byddwch yn trefnu gofal seibiant byr yn ein hosbis o flaen llaw, neu efallai y byddwch ei angen ar frys oherwydd argyfwng. Beth bynnag yw eich amgylchiadau, byddwn yn ceisio eich cefnogi a sicrhau bod anghenion eich plentyn a rhai eich teulu cyfan yn cael eu diwallu. 

 Gofal proffesiynol arbenigol

Trwy gydol ei arhosiad gyda ni, bydd eich plentyn yn cael gofal nyrs neu weithiwr cymorth gofal iechyd penodol, yn dibynnu ar ei anghenion unigol. Bydd hefyd yn cael gofal a chymorth arbenigol gan ein gweithwyr proffesiynol eraill yn ystod ei seibiant byr.

Llety ymlaciol

Ar gyfer eich plentyn

Mae gennym ddeg o ystafelloedd gwely preifat i blant. Mae’r rhain yn fannau cyfforddus, ymlaciol sy’n cynnwys rheolyddion tymheredd unigol ac yn cynnig digon o le ar gyfer eitemau ac offer arbennig o gartref.

Ar gyfer eich teulu

Mae ein hystafelloedd teulu wedi’u lleoli ger ein hystafelloedd gwely i blant. Rydym wedi cynllunio pob ystafell yn ofalus gyda gorffwys ac ymlacio mewn golwg. I lawer o deuluoedd, mae ein llety yn lleoliad gwych ar gyfer cael diwrnodau allan a mwynhau amser o ansawdd gyda’i gilydd. 

Gweithgareddau i bawb

Ar gyfer eich plentyn

Yn ystod ei seibiant byr gyda ni, mae amrywiaeth o therapïau ar gael, gan gynnwys hydrotherapi, therapïau cyflenwol a therapi cerdd. Byddwn hefyd yn trefnu llawer o amser chwarae a gweithgareddau i gymryd rhan ynddyn nhw a chael llawer o hwyl.

Ar gyfer eich teulu

Yn ein hosbis, gallwch chi a’ch teulu ymlacio yn ein gerddi neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnwys eich plentyn. Mae gennym hefyd ardal bwrpasol ar gyfer pobl ifanc, sy’n cynnwys parth gemau ac ystafell sinema. Ac, wrth gwrs, gallech fynd ymhellach ac archwilio’r ardal leol, sy’n cynnwys traethau hardd, parciau thema, amgueddfeydd ac orielau, a llawer mwy.

Fydden ni ddim yn gwybod beth i’w wneud heb y seibiant a’r gofal yna, oherwydd rydym ni’n dibynnu arno gymaint. Byddai’n achosi llawer mwy o straen ar ein teulu ac iechyd meddwl pawb yn y teulu: fi, fy mrodyr a chwiorydd a fy rhieni.

- William

Cymorth emosiynol heddiw

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech fod yn eu profi, gallwn helpu.  

Mae gennym ymarferwyr cymorth i deuluoedd sydd wedi’u hyfforddi hyd at safon uchel ac sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch neges e-bost i familysupport@tyhafan.org i drefnu sgwrs ag ymarferydd cymorth i deuluoedd heddiw. 

Explore more

Cymorth therapi

Rydym yn cynnig cymorth therapi arbenigol y gellir ei deilwra i anghenion eich plentyn a’ch teulu, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cymryd rhan.  

Rheoli symptomau

Mae ein gweithwyr gofal proffesiynol hynod brofiadol yn dilyn canllawiau clinigol arfer gorau i reoli poen a symptomau eraill. 

Gofal diwedd oes

Our range of therapies include music therapy, play therapy, physiotherapy, occupational therapy and complementary therapies such as massage and aromatherapy.

Gofal diwedd oes

Our range of therapies include music therapy, play therapy, physiotherapy, occupational therapy and complementary therapies such as massage and aromatherapy.