Gallwch chi a’ch cydweithwyr newid bywydau

Rydym yn gweithio’n agos â busnesau o bob maint i greu partneriaethau sydd o fudd i bawb sy’n gwella bywydau ifanc ac yn gwneud i’r sefydliadau yr ydym yn gweithio â nhw deimlo 100% yn rhan o deulu Tŷ Hafan.

Edrychwch ar y gwahanol ffyrdd y gallwch chi fod yn bartner i ni. O godi arian i wirfoddoli, marchnata sy’n gysylltiedig â rhoi trwy’r gyflogres at achosion, gallwch chi a’ch cydweithwyr helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn.

support-as-a-business-hero

Ein partneriaid anhygoel

Pam dod yn bartner Tŷ Hafan?

Teimlo cysylltiad â’r teuluoedd yr ydych yn eu helpu

Bydd eich rheolwr cyfrif penodedig yn sicrhau eich bod chi a’ch tîm yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwahaniaeth anhygoel mae eich rhoddion yn ei wneud.

Rhoi hwb i’ch brand a sicrhau cwsmeriaid newydd

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo eich busnes yn gadarnhaol, eich helpu i gyrraedd eich nodau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu a chyrraedd cwsmeriaid sy’n ymwybodol yn gymdeithasol.

Dull o weithredu wedi ei deilwra ar gyfer eich busnes

O weithgareddau codi arian pwrpasol i brosiectau gwirfoddoli, byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ddeall anghenion eich busnes a chanfod yr hyn sy’n ysgogi eich tîm.

Dewch â'ch tîm ynghyd yn y byd hybrid

Gall codi arian ar gyfer Tŷ Hafan helpu gweithluoedd hybrid i weithio mwy gyda'i gilydd, canolbwyntio ar nodau cyffredin, cael llawer o hwyl a mwynhau hwb mawr i forâl.

Mwynhewch gydnabyddiaeth am eich ymdrechion rhyfeddol

Byddwn yn dathlu eich caredigrwydd a'ch haelioni yn rheolaidd. Gallai hyn gynnwys ysgythru enw eich busnes ar ddeilen efydd, arian neu aur neu ar afal ar y Goeden Roddion yn ein prif swyddfa.

Y ffyrdd y gallwch helpu i wneud pob eiliad gyfrif

Partneriaeth Gorfforaethol

Dewiswch Tŷ Hafan fel eich partner elusen a byddwn yn gweithio’n gyda chi i greu strategaeth a chynllun gweithredu pwrpasol sy’n diwallu anghenion eich busnes a’ch gweithwyr.

Codi Arian

Pa un a ydyn nhw’n dringo Pen y Fan, yn cynnal cwis tafarn neu’n cymryd rhan mewn her Tŷ Hafan, mae llawer o ffyrdd i’ch gweithwyr godi arian i ariannu ein gwaith sy’n newid bywydau.

Codi Arian

Pa un a ydyn nhw’n dringo Pen y Fan, yn cynnal cwis tafarn neu’n cymryd rhan mewn her Tŷ Hafan, mae llawer o ffyrdd i’ch gweithwyr godi arian i ariannu ein gwaith sy’n newid bywydau.

Marchnata sy’n gysylltiedig ag achosion

Denwch gwsmeriaid newydd a dangoswch i’ch cwsmeriaid presennol faint mae’r achos yn ei olygu i chi drwy roi canran o’ch elw a gewch wrth werthu eich cynnyrch neu eich gwasanaethau.

Rhoi trwy’r gyflogres

Mae rhoi trwy’r gyflogres yn ffordd syml i weithiwr gefnogi gwasanaethau Tŷ Hafan yn uniongyrchol o’u cyflog ac mae’n effeithiol o ran treth.

Gwirfoddoli

Gallwn greu prosiectau gwirfoddoli pwrpasol sy’n defnyddio sgiliau a phrofiad eich tîm, neu gall eich gweithwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol mwy rheolaidd, fel ein Her Siop Elusen.

Sut y byddwn yn rhoi eich cefnogaeth hanfodol ar waith

£1,000

Gallai £1,000 dalu am ein gwasanaeth cymorth ffôn 24 awr am fis, gan sicrhau ein bod ni bob amser yno pan fydd teuluoedd ein hangen.

£4,500

gallai dalu am declyn codi arbenigol.

£10,000

darparu gofal nyrsio 24 awr i blentyn am wythnos, gan roi amser gwerthfawr i ffwrdd o fod yn ofalwr i rieni.

£14,250

yn gallu talu am ddiwrnod cyfan o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis i sawl teulu.

Yma i helpu

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut gall eich busnes a Tŷ Hafan gydweithio, cysylltwch â’n tîm Partneriaeth Gorfforaethol; joinus@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2199.