Gall eich caredigrwydd, amser ac egni newid bywydau

Edrychwch ar yr holl ffyrdd gwych o gefnogi gwaith anhygoel Tŷ Hafan fel unigolyn.   

Ar y dudalen hon, rydym hefyd wedi creu adran codi arian i’ch ysbrydoli ac i sicrhau bod eich profiad codi arian gyda Tŷ Hafan yn llwyddiannus iawn.

Cefnogaeth fel Unigolyn

Mae cymaint y gallwch ei wneud

Rhoi i weddnewid bywydau ifanc

Trwy roi rhodd untro neu rodd reolaidd, gallwch ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae eu hangen nawr.

Cymryd rhan mewn digwyddiad

Bod yn heini a chosi arian trwy gymryd rhan mewn digwyddiad.

Gadael rhodd yn eich ewyllys

Gall eich rhodd wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau sy’n newid bywydau o fudd i lawer mwy o deuluoedd ymhell i’r dyfodol.

Gwirfoddoli

Mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a helpu i wneud bywydau byr yn fywydau llawn.

Mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a helpu i wneud bywydau byr yn fywydau llawn.

Mae ein loteri Crackerjackpot yn rhoi cyfle i chi ennill 81 o wobrau wythnosol a hyd at £12,000.

Eich cefnogi chi 

Os ydych yn hen law ar godi arian neu yn ystyried trefnu eich digwyddiad cyntaf, mae ein tîm codi arian arbenigol yma i’ch cefnogi. 

Gallant ateb eich holl gwestiynau, rhoi hwb i chi pan fo angen, a gwneud codi arian i Tŷ Hafan yn llawer haws. 

Cysylltwch â nhw ar supportercare@tyhafan.org neu 029 2053 2199. Bydden nhw’n dwlu clywed gennych chi. 

Sut ydym ni’n defnyddio yr arian anhygoel yr ydych wedi’i godi 

£25

Gallai £25 dalu am weithiwr cymorth i deulu roi awr o gymorth emosiynol i helpu teulu i ymdopi â’r heriau y maent yn eu hwynebu bob dydd. 

£50

Gallai £50 dalu am awr o therapi cerdd sy’n cynnig cymorth emosiynol, cyfle i ymlacio ac anghofio eu cyflwr a modd i blant fynegi eu hunain. 

£231

Gallai £231 dalu am nyrs sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i ofalu am blentyn drwy’r nos, gan roi seibiant gwerthfawr i rieni oddi wrth eu dyletswyddau fel gofalwyr. 

£458

Gallai £458 dalu am ddeunyddiau celf a chrefft i blant eu defnyddio mewn sesiynau therapi chwarae am flwyddyn gyfan. 

Eich adran codi arian defnyddiol dros ben 

Ddim yn siŵr sut i godi arian ac yn chwilio am ychydig o gyngor? Dyma’r union adran ar eich cyfer chi. Mae’n llawn syniadau ac awgrymiadau gwych i godi llawer iawn o arian. 

 

organise-your-own-event

Trefnu eich digwyddiad eich hun

O fore coffi i fyny mynydd, i sesiwn golchi ceir â thema disgo, i daith cerdded tair coes noddedig. Defnyddiwch eich dychymyg. Gallwch drefnu bob math o ddigwyddiad i godi arian hanfodol i Tŷ Hafan

Gwneud her neu ddod i ddigwyddiad

Os ydych yn gwneud her 3 Chopa Cymru neu’n ymuno â ni yn ein Cyngerdd Nadolig, gallwch gael hwyl a chodi arian hanfodol i Ty Hafan.  

Gwirfoddoli

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n cymuned o grwpiau codi arian cymunedol neu i sefydlu rhai newydd yn eu hardal. Gall y math hwn o wirfoddoli roi llawer iawn o foddhad ac fe gewch eich cefnogi bob cam o’r ffordd 

Dathlu mewn steil

Un o’r ffyrdd hawsaf o helpu i ddarparu gofal hanfodol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yw trwy droi eich pen-blwydd, pen-blwydd priodas neu briodas yn gyfle i godi arian. Gofynnwch i bobl gyfrannu yn hytrach na rhoi anrheg

Rhai o’n hoff ffyrdd o godi arian fel unigolyn

Ydych chi wedi penderfynu gwneud rhywbeth ar eich pen eich hun? Dyma ein pum ffordd orau o godi arian fel unigolyn. 

Herio eich hun

Gwnewch sawl ras, reid feicio neu daith gerdded dros gyfnod penodol.

Coginio

Gallech bobi cacennau a’u gwerthu am grocbris i bobl.

Rhoi’r gorau iddi!

Siocled. Eich ffôn. Cwrw neu win. Beth am roi’r gorau i rywbeth rydych chi’n dwlu arno?

Cynnal noson garioci

Gofynnwch i bobl gyfrannu i gael canu eu hoff ganeuon.

Clirio’r cypyrddau

Casglwch eich holl hen bethau at ei gilydd a’u gwerthu ar eBay neu Vinted.

Adnoddau am ddim i chi

Rydym wedi creu canllaw codi arian gwych sy’n berffaith ar eich cyfer chi. Mae’n llawn cyngor rhagorol, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian.   

Ar ben hyn i gyd, mae gennym bosteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall ar eich cyfer am ddim. Maent yn berffaith ar gyfer denu sylw at unrhyw ddigwyddiad codi arian a’i wneud yn llwyddiant mawr.  

Derbyn rhoddion ar-lein

Mae sefydlu eich tudalen codi arian eich hun ar wefan fel JustGiving yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o’ch ymdrechion codi arian a pham eich bod yn codi arian i Tŷ Hafan. 

Yn bwysig, mae hefyd yn ffordd hawdd i deulu, ffrindiau a chydweithwyr roi arian. Ond gan fod cymaint o bobl yn codi arian ar gyfer gwahanol elusennau y dyddiau hyn, cofiwch wneud eich tudalen yn drawiadol a chynnwys eich stori bersonol, lluniau a’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd. 

Sut i godi cymaint o arian a phosibl  

Yn Tŷ Hafan, rydym wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd am sut i wneud codi arian yn llwyddiant mawr.  

Rydym eisiau i bawb sy’n codi arian i ni elwa ar ein holl arbenigedd. Felly rydym wedi nodi ein pum awgrym gorau ar gyfer codi cymaint o arian â phosibl.  

  1. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, i ledaenu’r wybodaeth am eich digwyddiad.
  2. Creu tudalen rhoi ar-lein sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl eich cefnogi.
  3. Gofyn am rai o ddeunyddiau hyrwyddo Tŷ Hafan a’u defnyddio yn eich cymuned.
  4. Cysylltu â’ch cyfryngau lleol a dweud wrthynt eich bod yn codi arian.
  5. Gofyn i’ch cyflogwr am eu polisi arian cyfatebol i ddyblu eich cyfanswm.

Angen mwy o gyngor arbenigol? Rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Lawrlwytho ein canllaw codi arian. Mae’n cynnwys hyd yn oed mwy o awgrymiadau a llawer o syniadau codi arian.

Sut ydym ni’n defnyddio yr arian anhygoel yr ydych wedi’i godi 

£1000

could pay for all the medical supplies
used at the hospice for a month.

£4500

could pay for a specialist hoist.

£10,000

could provide 24-hour nursing care for a child for a week,
giving parents precious time off from being a carer.

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad codi arian

    Eich manylion

    Enw cyntaf
    Cyfenw
    E-bost
    Ffôn
    Dewiswch beth yr ydych yn bwriadu ei wneud

    Eich digwyddiad

    Os ydych chi’n bwriadu trefnu neu gymryd rhan mewn digwyddiad, nodwch:
    Enw eich digwyddiad
    Dyddiad eich digwyddiad
    Faint ydych chi’n bwriadu ei godi?
    Pam ydych chi’n codi arian i Tŷ Hafan?


    Ticiwch yma i gadarnhau eich bod yn 18 oed neu’n hŷn. Os ydych o dan 18, cysylltwch â’n tîm Gofal am Gwsmeriaid ar 029 2053 2255 i gofrestru eich digwyddiad (llinellau ar agor 9:00am tan 5:00pm, Llun i Gwener). Bydd angen bod rhiant neu warcheidwad gyda chi i gwblhau eich cofrestriad.