Yma i helpu
I wybod mwy am waith Tŷ Hafan a sut y gallech wneud gwahaniaeth enfawr trwy fod yn roddwr o bwys, cysylltwch â Rachel Ritter, Pennaeth Rhoddion o Bwys a Phartneriaethau, rachel.ritter@tyhafan.org neu 029 20532 191.
Fel rhoddwr o bwys, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth sy’n newid bywydau plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.
Am hyn, byddwn yn gwneud i chi deimlo eich bod yn rhan o dîm Tŷ Hafan a bod gennych gysylltiad â’r plant a’r teuluoedd yr ydych yn eu helpu yn Cymru.
Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £5.6 miliwn i gynnal ein hosbis a darparu ein gwasanaethau allgymorth hanfodol mewn cymunedau yn Cymru.
Dim ond trwy garedigrwydd a haelioni ein cefnogwyr gwych, gan gynnwys ein rhoddwyr o bwys, y gallwn wneud hyn..
Trwy fod yn un o’n rhoddwyr o bwys, byddwch yn ein helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol i deuluoedd sydd yn aml â neb arall i droi ato.
Cewch eich cefnogi gan arbenigwr rhoddwr o bwys a fydd yn gweithio’n agos gyda chi i greu partneriaeth sy’n rhoi boddhad i’r naill a’r llall.
Os ydych yn gobeithio mynd ar daith fydd yn eich ysbrydoli ac yn rhoi boddhad i chi, ystyriwch fod yn un o’n rhoddwyr o bwys arbennig iawn. Heddiw, yfory ac yn hir i’r dyfodol, byddwch yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn.
Mae rhoi rhodd o £5,000 ac uwch yn ffordd arbennig iawn o wneud bywydau byr yn fywydau llawn. Ar unwaith, byddwn yn dechrau defnyddio eich rhodd hael i gyrraedd a chefnogi mwy o deuluoedd yng Nghymru y gallai ein gofal seibiant byr, cymorth emosiynol a gwasanaethau arbenigol eraill fod o fudd iddynt.
Cysylltwch â Rachel Ritter ar rachel.ritter@tyhafan.org neu 029 20532 191 i wybod mwy.
Rhoi eich cyfranddaliadau i Tŷ Hafan yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon o roi gan na fyddwch yn talu treth ar enillion cyfalaf ar y cyfranddaliadau y byddwch yn eu rhoi.
Os byddwch yn talu treth ar 40% neu 45%, byddwch hefyd yn gallu hawlio rhyddhad treth incwm sy’n cyfateb i 40% neu 45% o werth eich rhodd, yn dibynnu pa gyfradd o dreth yr ydych yn ei thalu.
Cysylltwch â Rachel Ritter ar rachel.ritter@tyhafan.org neu 029 20532 191 i wybod mwy. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i wneud y broses o roi eich cyfranddaliadau mor rhwydd â phosibl.
Rydym yn credu ei bod yn hynod bwysig bod ein rhoddwyr o bwys yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â Tŷ Hafan a’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn gofalu amdanynt. Mae ein rhaglen cydnabod a gwobrwyo ar gyfer rhoddwyr o bwys yn cynnwys:
Os byddwch yn penderfynu rhoi, dyma sut y gallem ni ddefnyddio eich haelioni i newid bywydau.
Gallai £6,000 dalu am ein gwasanaeth cefnogaeth ffôn 24-awr am chwe mis, gan sicrhau ein bod bob amser yno pan fydd ein hangen ar deuluoedd.
Gallai £15,000 dalu am flwyddyn o sesiynau therapi cerdd sy’n cynnig cymorth emosiynol, cyfle i ymlacio ac anghofio eu cyflwr a modd i blant fynegi eu hunain.
Gallai £55,000 roi penwythnos o ofal seibiant byr i 10 teulu yn ein hosbis, gan gynnwys llety, bwyd a diod, therapi chwarae a gofal nyrsio 24-awr.
Gallai £125,000 dalu am 10 diwrnod o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis i lawer o deuluoedd.
I wybod mwy am waith Tŷ Hafan a sut y gallech wneud gwahaniaeth enfawr trwy fod yn roddwr o bwys, cysylltwch â Rachel Ritter, Pennaeth Rhoddion o Bwys a Phartneriaethau, rachel.ritter@tyhafan.org neu 029 20532 191.