1 X gwobr o £500
10 x £50 o gardiau rhodd M&S
Telerau ac Amodau Raffl Haf Tŷ Hafan 2024
Cyfyngiadau: Pobl sy’n byw ym Mhrydain fawr yn unig gaiff roi cynnig ar y raffl. Ni cheir gwerthu tocynnau i unrhyw un dan 18 mlwydd oed na chanddynt. Os canfyddir bod rhywun dan 18 oed bydd yn colli ei hawl i ennill gwobr. Nid yw’r raffl yn agored i gyflogeion Tŷ Hafan na’i is-gwmniau.
Gwobrau: Y wobr gyntaf yw £3,000 o arian parod* neu wyliau i Sicily** hyd at £3,000 mewn gwerth. Yr 2il wobr yw £500 o arian parod. Y 3edd wobr yw 10 x £50 o gardiau rhodd M&S***.
* Telir yr holl wobrau â siec neu, ar gais, drosgwyddiad banc. Bwriad cyfeiriadau at ‘arian parod’ yw egluro bod y wobr ar gael ar ffurf arian a delir yn uniongyrchol i’r enillydd. Am resymau diogelwch, gwyngalchu arian a’r gallu i olrhain, nid yw’r wobr ar gael fel taliad arian parod.
** Os dewisir y Gwyliau i Sicily, caiff ei drefnu gan asiantaeth bartner a bydd yn rhaid i chi roi eich manylion personol. Gwneir hyn drwy system ddiogel a bydd at ddibenion trefnu gwyliau yn unig. Ni fydd unrhyw ganiatâd marchnata yn cael ei etifeddu gan Tŷ Hafan ac nid yw hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi wneud hynny na phrynu dim arall. Ni fydd gwerth y gwyliau, gan gynnwys holl ffioedd yr asiantaeth, yswiriant ac unrhyw ffioedd cyfreithiol arall neu ffioedd y bydd Tŷ Hafan yn penderfynu eu bod yn angenrheidiol yn fwy na £3,000.
*** Mae’r math o Gerdyn Rhodd yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael a newid.
Raffl gyflym: Bydd tocynnau sy’n cael eu prynu erbyn 6 Mehefin 2024 yn cael eu cynnwys mewn raffl ychwanegol gyda gwobrau o £500 a 5 x hamper picnic haf.
At ddibenion darlunio yn unig y mae’r gwobrau a ddangosir.
Dyddiad y raffl: Bydd yn cau ar 2 Gorffennaf 2024; bydd yn cael ei thynnu ar 9 Gorffennaf 2024.
Hysbysu’r enillydd: Bydd yr enillwyr yn cael gwybod dros y ffôn a bydd rhestr o’r enillwyr ar gael ar ein gwefan www.tyhafan.org/raffle. Fel arall, gallwch anfon amlen â stamp a chyfeiriad arni i: Raffl Tŷ Hafan 2024, Prif Swyddfa, Hayes Road, Sili CF64 5XX.
Er y gwneir pob ymdrech i gysylltu ag enillwyr, os na fyddwn yn gallu cysylltu â chi o fewn 90 diwrnod i ddyddiad tynnu’r raffl, defnyddir arian y wobr i ariannu gwaith Tŷ Hafan.
Enillwyr: gofynnir iddynt os ydynt yn barod i roi llun neu gael eu llun wedi’i dynnu, a rhoi dyfyniad am ennill gwobr i helpu Tŷ Hafan i hyrwyddo rafflau codi arian yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni oes rheidrwydd i wneud hynny.
Ceisiadau hwyr: Bydd unrhyw arian a dderbynnir ar ôl i’r raffl gau yn cael ei drin fel rhodd i helpu i ariannu ein gwaith – diolch.
Person cyfrifol: John Mladenovic, Cyfarwyddwr Loteri, Tŷ Hafan, Prif Swyddfa, Hayes Road, Sili CF64 5XX.
Ynglŷn â’r hyrwyddwr:
Rhaid i chi fod yn 18+ oed, ac yn byw ym Mhrydain Fawr i chwarae ein raffl.
Mae Tŷ Hafan wedi ei gofrestru a’i reoleiddio ym Mhrydain Fawr gan y Comisiwn Gamblo dan rif cyfrif 4753 https://registers.gamblingcommission.gov.uk/4753
Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, ar gyfartaledd, aeth 70p o bob £1 yn uniongyrchol i Tŷ Hafan fel elw. Defnyddiwyd 7c i ariannu’r gwobrau a 23c i dalu am gost cynnal y rafflau.
Gamblwch yn gyfrifol. Pryderu am gamblo? Mae cymorth ar gael gan BeGambleAware a Gamcare.