Mwy na swydd 

Barod i deimlo wedi’ch hysbrydoli? Chwilio am yrfa sydd wir yn newid  bywydau? Eisiau datblygu fel person yn ogystal ag yn broffesiynol? 

Yna, edrychwch ar ein swyddi gwag ym maes gofal, manwerthu ac yn y brif swyddfa ar hyn o bryd. Oherwydd, rydym yn addo bod pob rôl yn Tŷ Hafan yn gymaint mwy na dim ond swydd. 

Gyrfaoedd

Pam gweithio yn Tŷ Hafan?

I lawer o’n gweithwyr, helpu i roi cymorth sy’n newid bywyd i blant, sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a’u teuluoedd sy’n gwneud gweithio yn Tŷ Hafan mor anhygoel o arbennig.  

Mae hefyd yn ymwneud â bod wedi eich cysylltu â’r plant anhygoel hyn a’u hanwyliaid, a dysgu a chael eich ysbrydoli ganddynt, sy’n arwain at gymaint o’n haelodau staff i aros gyda ni am gyfnod hir iawn. 

Ar ben hyn, rydym hefyd yn sicrhau ein bod yn cynnig cyflogau cystadleuol, buddion gwych, amgylcheddau gwaith cyfeillgar a chefnogol a  chyfleoedd datblygu anhygoel. 

Ein nod yw sicrhau bod pob aelod o’n tîm yn rhagori yn eu rôl er mwyn i ni, fel sefydliad cyfan, ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth orau i’n teuluoedd Tŷ Hafan.  

Oes gennych gwestiwn? Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin isod.

Archwiliwch ein rolau

Swyddi gofal

Gallwch weddnewid bywydau fel rhan o’n tîm anhygoel o weithwyr gofal a nyrsio proffesiynol. 

Swyddi manwerthu 

Gallwch ymgymryd â swydd amrywiol sy’n rhoi boddhad yn un o’n siopau yn ne neu orllewin Cymru. 

Swyddi yn y brif swyddfa 

Gallwch fwynhau swydd sy’n helpu i gefnogi plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. 

Yn Tŷ Hafan, mae pwyslais enfawr ar ddarparu’r gofal gorau posib i’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi. Mae’r tîm gofal yn cydweithio’n agos a gyda’r defnyddwyr gwasanaeth er mwyn cyrraedd y nod hwn. Rydyn ni wir yn deulu yn Tŷ Hafan.

- Adrian Smith, Prif Nyrs

 Mae pawb yn gyfartal  

Yn Tŷ Hafan, nid dim ond dweud ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ydym ni. Rydym ni’n gwneud rhywbeth amdano.  

Rydym yn cynnig amrywiaeth o bolisïau cyflogaeth cynhwysol sy’n addas i deuluoedd, trefniadau gweithio hyblyg, fforymau ymgysylltu â staff a chefnogaeth i weithwyr o wahanol gefndiroedd.   

Rydym hefyd yn croesawu ac yn annog ceisiadau am swyddi gan bobl o bob math o gefndir, ac yn enwedig y rhai hynny o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.  

Ni fydd yr un ymgeisydd am swydd, gweithiwr na gweithiwr dros dro byth yn cael triniaeth lai ffafriol gennym oherwydd eu hoedran, anabledd, rhyw neu statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred, statws priodas neu bartneriaeth sifil neu gyfeiriadedd rhywiol. 

Rydym yn cadw’r hawl i gau unrhyw swydd wag yn gynnar. Nid oes angen i asiantaethau wneud cais.

Stori Tŷ Hafan

Dysgwch am wreiddiau Tŷ Hafan, ein cysylltiad â’r Dywysoges Diana a sut mae ein helusen a’n gwasanaethau wedi parhau i ddatblygu ers i ni agor yn 1999. 

Darllen ein stori