Rydym ni’n cynnig clust i wrando, therapïau ac amrywiaeth o gefnogaeth emosiynol arall i blant sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd, eu rhieni a’u brodyr a chwiorydd.
Rydym ni’n darparu cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth arbenigol i wneud bywyd yn symlach i chi, gwella ansawdd bywyd eich teulu a sicrhau nad ydych chi’n teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun.
Gall ein hymarferwyr cymorth i deuluoedd arbenigol ddarparu cefnogaeth benodol i aelodau o’ch teulu i’w helpu i alaru ac ymdopi â’u colled. Gallant hefyd eich cyfeirio chi ac aelodau eich teulu at gymorth cwnsela proffesiynol, os oes angen hyn unrhyw bryd.
Ardaloedd unigryw yn ein hosbis. Gweithgareddau a digwyddiadau penodol. Grŵp cefnogi ar gyfer brodyr a chwiorydd yn y glasoed. A nyrs bontio yn benodol ar gyfer cefnogi pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.