Gofal diwedd oes

Byddwn yn sicrhau bod eich plentyn a’ch teulu yn cael y cymorth ymarferol, emosiynol ac ysbrydol  sydd ei angen arnoch chi ar ddiwedd oes eich plentyn.

Gallwn ddarparu gofal diwedd oes arbenigol yn ein hosbis ac mewn ysbyty, yn ogystal â chymorth anghlinigol tosturiol yn eich cartref, os byddwch yn penderfynu mai dyna’r lle gorau i’ch plentyn. 

Gofal diwedd oes

Sut gallwn ni eich cefnogi chi

Rydym yn deall pa mor anodd yw cael sgyrsiau am ofal diwedd oes. Ond gall ein timau gofal a chymorth i deuluoedd weithio gyda chi mewn modd sensitif a gyda pharch i gynllunio’r gofal diwedd oes gorau ar gyfer eich plentyn a’ch teulu. 

Expert advice

Gallwn roi cyngor, arweiniad a chymorth arbenigol i'ch helpu i benderfynu lle y dylai'ch plentyn gael gofal ar ddiwedd ei oes.

Assessment

Byddwn yn gweithio gyda chi i asesu anghenion pob aelod o'ch teulu er mwyn sicrhau eich bod i gyd yn teimlo eich bod yn cael cefnogaeth ac yn cymryd rhan yng ngofal eich plentyn mewn ffordd sy'n iawn i chi.

Experienced team

Mae ein tîm gofal yn brofiadol yn rheoli symptomau cymhleth a bydd yn gweithio'n agos gyda thîm meddygol a nyrsio eich plentyn i sicrhau bod ei holl symptomau o dan reolaeth wrth gyrraedd diwedd ei oes.

Capture memories

Gallwn helpu pob aelod o'ch teulu i greu atgofion gwerthfawr gyda'ch plentyn, gan roi rhywbeth iddynt drysori am weddill eu hoes.

Bereavement support

Ar adeg marwolaeth eich plentyn, gallwn ddarparu cysur a chymorth i helpu eich teulu. Rydym hefyd yn cynnig cymorth profedigaeth cyhyd â bod ei angen.

Celebrating life

Gallwn eich helpu i drefnu angladd eich plentyn a sicrhau ei fod yn ddathliad gwirioneddol o'i fywyd.

Yma i helpu

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar ofal diwedd oes y gallwn ei roi i’ch plentyn a’ch teulu, cysylltwch â’n tîm cymorth i deuluoedd; familysupport@tyhafan.org neu 02920 532200.

They’re available 9am to 5pm, Monday to Friday.

Please see our Make a referral page for information on how and when you can make a referral.

Rydym ni nawr yn byw yn yr hosbis, yn aros am y foment honno. Alla i ddim dychmygu bod yn unman arall. Fe wnaethom ni gytuno fel rhan o gynllun gofal Archie y byddem ni’n hoffi iddo huno yma a dyma’r penderfyniad gorau rydym ni wedi ei wneud.

- Brad

Roeddem yn gallu dathlu bywyd Ieuan yn yr hosbis ac fe ddaeth tua 80 o’n teulu a’n ffrindiau yno, gan rannu ein cariad, atgofion a chyflawniadau ein bachgen. Roedd yn achlysur wirioneddol arbennig.

- Tracey

Bu farw fy mhlentyn yn yr ysbyty ond daeth yn ôl i’r hosbis. Roedd cael yr amser hwnnw, yr heddwch, y tawelwch, yn anhygoel. Gofalwyd amdanom ni. Maen nhw’n bobl addfwyn sy’n gwybod beth i’w ddweud i wneud i chi deimlo’n dda mewn cyfnod gwael.

Cymorth emosiynol heddiw

Os hoffech chi siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech fod yn eu profi, gallwn helpu.  

Mae gennym ymarferwyr cymorth i deuluoedd sydd wedi’u hyfforddi hyd at safon uchel ac sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch neges e-bost; familysupport@tyhafan.org i drefnu sgwrs ag ymarferydd cymorth i deuluoedd heddiw. 

Explore more

Arhosiadau seibiant mewn argyfwng

Efallai y bydd adegau pan fydd anghenion gofal eich plentyn yn fwy cymhleth a beichus neu efallai bod sefyllfa deuluol yn golygu bod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch. Os yw hyn yn wir, fe wnawn ein gorau i gynnig seibiant byr i chi.

Rheoli symptomau

Mae ein gweithwyr gofal proffesiynol yn brofiadol iawn yn rheoli poen a symptomau eraill y mae plant a phobl ifanc yn eu profi. 

Therapi a chymorth chwarae synhwyraidd

Gall ein hamrywiaeth o therapïau gael eu personoli i ddiwallu anghenion eich plentyn. Rydym hefyd yn sicrhau bod aelodau o’r teulu’n teimlo eu bod yn cymryd rhan lawn mewn therapïau hefyd. 

Cymorth profedigaeth

Rydym yn cynnig cymorth profedigaeth wedi’i deilwra cyhyd â bod ei angen. Rydym ni’n deall bod galar yn wahanol i bawb a gallwn weithio gydag aelodau eich teulu i roi’r cymorth cywir iddyn nhw.