Oes gennych gwestiwn?
Rydym wedi ateb llawer o gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn aml am gynnwys rhodd mewn ewyllys.
Dysgu mwy
Drwy gynnwys rhoddion gwerthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod llawer mwy o deuluoedd yn elwa ar ein gwasanaethau sy’n newid bywydau ymhell i’r dyfodol.
Eisoes, mae rhoddion mewn ewyllysiau yn gwbl hanfodol i’n gwasanaethau. Maen nhw’n ariannu 25% o’r gofal rydym yn ei ddarparu i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau.
Ond wrth edrych i’r dyfodol, mae’r rhoddion arbennig hyn yn mynd i ddod yn fwy hanfodol byth i ni a’r teuluoedd rydym yn eu helpu. Mae hynny oherwydd datblygiadau mewn triniaeth a gofal, rydym yn disgwyl i fwy o blant sy’n cael eu geni â chyflwr sy’n byrhau bywyd, neu sy’n datblygu cyflwr o’r fath, fyw’n hirach a bod angen ein cefnogaeth arbenigol.
Felly, ystyriwch gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan. Mae wir yn ffordd werth chweil o gefnogi plant a theuluoedd yn ein hosbis, 10, 20, hyd yn oed 50 mlynedd o nawr.
Cyfle i weld sut mae rhoddion mewn ewyllysiau yn helpu Tŷ Hafan i fod yn achubiaeth i deuluoedd fel un Ollie, a sicrhau eu bod nhw’n mwynhau adegau amhrisiadwy gyda’i gilydd.
Caiff hon hefyd ei galw’n ‘rhodd weddilliol’ ac mae’n ganran o’ch ystad, sy’n cynnwys unrhyw beth sy’n eiddo i chi. Mae rhodd weddilliol yn golygu bod y swm sy’n cael ei roi i elusen yn cael ei ddiogelu rhag chwyddiant.
Caiff hon hefyd ei galw’n ‘rhodd ariannol’ ac mae’n swm penodedig o arian.
Mae hwn yn eitem wedi’i enwi fel tŷ, gemwaith, hen bethau neu gyfranddaliadau.
Gallai 1% o werth cyfartalog ystad dalu am dros ddwy flynedd o’r cyflenwad ocsigen sy’n cael ei ddefnyddio yn yr hosbis.
Gallai 2% o werth cyfartalog ystad roi pum diwrnod o ofal seibiant byr i deulu yn ein hosbis, gan helpu’r teulu cyfan i gael seibiant mawr ei angen, yn ogystal â’r holl gyflenwadau meddygol sy’n cael eu defnyddio yn yr hosbis am fis.
Gallai 2.5% o werth cyfartalog ystad dalu am got arbenigol wedi’i addasu sy’n cadw plant yn ddiogel ac yn gyfforddus, gan ddarparu ar gyfer peiriannau cymorth anadlu a thiwbiau bwydo.
Gallai 5% o werth cyfartalog ystad dalu am ddiwrnod a hanner o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyflenwadau meddygol, cyfarpar, staff arbenigol a chostau therapi yn yr hosbis a’r gymuned.
Gallai 10% o werth cyfartalog ystad* dalu am nyrs Tŷ Hafan i roi gofal lliniarol pediatrig arbenigol i deulu am flwyddyn gyfan.
*Yn seiliedig ar werth cyfartalog ystadau yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Smee & Ford Legacy Insight Analysists yn 2023.
Gallwch weld pa mor syml yw cynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan gyda’n canllaw hawdd ei ddilyn. Mae’n sôn am dreth etifeddiaeth a’r mathau o roddion y gallwch eu rhoi.
Gallwch gwrdd wyneb yn wyneb â chyfreithiwr drwy ein partneriaeth gyda’r National Free Wills Network neu greu ewyllys ar-lein gyda chefnogaeth Farewill.
Dechreuwch ddarllen ein canllaw hawdd ei ddilyn heddiw. Mae’n llawn cyngor ac arweiniad defnyddiol.
Rydym wedi ateb llawer o gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn aml am gynnwys rhodd mewn ewyllys.
Dysgu mwy
dalu am 120 sesiwn o therapi cerdd, gan helpu plant i gael hwyl, ymlacio a mynegi eu hunain.
dalu am ddiwrnod cyfan o ofal meddygol a chymorth arbenigol yn ein hosbis i sawl teulu.
dalu am flwyddyn o gwnsela profedigaeth yn ein hosbis i deulu sy’n colli plentyn.
dalu am nyrs Tŷ Hafan i ddarparu gofal lliniarol pediatrig arbenigol i deulu am flwyddyn.
Os oes gennych gwestiwn yr hoffech gael ateb iddo, eisiau gwybod mwy am ein cynnig ysgrifennu ewyllys am ddim, neu os hoffech dderbyn copi caled o’n canllaw rhoddion mewn ewyllysiau am ddim, cysylltwch â ni.
Gallwch gysylltu ag Abbie Barton, yr uwch swyddog codi arian drwy rodd mewn ewyllysiau ac er cof, ar supportercare@tyhafan.org neu 02920 532 255.