Gofalu am blant 

Mae ein gofal a chymorth pwrpasol ar gyfer plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd bob amser wedi’u personoli i ddiwallu eu hanghenion unigol.

Rydym yn darparu’r achubiaeth hon mewn cartrefi teuluoedd, cymunedau ledled Cymru ac yn ein hosbis arbenigol yn Sili, ym Mro Morgannwg. 

Gofalu am blant

Ein hosbis glyd a chroesawgar

Mae ein hosbis yn lle hapus a chartrefol sydd wedi’i chynllunio’n ofalus gyda babanod, plant a phobl ifanc mewn golwg. 
Yn ogystal â chael gofal o’r radd flaenaf yn ein hosbis, gall plant gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, neu ymlacio a mwynhau ychydig o amser tawel. 
Cyfleusterau

Mae gan ein hosbis bopeth sydd ei angen i wneud arhosiad plentyn yn llawn hwyl ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd chwarae lliwgar, ardaloedd cerddoriaeth, ystafelloedd synhwyraidd a phwll hydrotherapi mawr.

Llety

Mae gennym ni hyd at ddeg o ystafelloedd gwely preifat i blant, sy’n cynnig llawer o le ar gyfer eitemau a chyfarpar arbennig o gartref. Mae gennym hefyd lety teuluol rhagorol mewn ardal ar wahân sy’n agos at ystafelloedd gwely ein plant. 

Parth person ifanc

Ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau mwy o annibyniaeth a mannau i rai mwy aeddfed, mae gennym ein Den.  Mae’n cynnwys cegin hygyrch, parth gemau ac ystafell sinema.

Mannau awyr agored

Mae ein tir yn cynnig llawer o leoedd gwahanol i blant a theuluoedd eu mwynhau, gan gynnwys ardaloedd chwarae arbenigol, gardd synhwyraidd, llwybrau cerdded a llwybr cadair olwyn pwrpasol.

Seibiannau o ofalu

Mae gofalu am blentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd yn aml yn gallu bod yn hynod o heriol – yn gorfforol ac yn emosiynol. Trwy ddarparu digwyddiadau hosbis a chymunedol i deuluoedd sy’n cynnwys cyfleoedd i gael mynediad at amrywiaeth o gymorth therapiwtig a lles, rydym yn rhoi cyfle i rieni a gofalwyr ymlacio ac adfer. Weithiau byddwn o bosibl yn gallu darparu arhosiad byr dros nos i gefnogi rhieni a gofalwyr.

Rheoli symptomau

Mae ein nyrsys clinigol arbenigol medrus yn gweithio gyda’n timau meddygol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned i sicrhau bod symptomau’n cael eu rheoli’n effeithiol yn ein hosbis, gartref ac mewn ysbyty.    

Cymorth therapi

Trwy dechnegau arbenigol, cyfleusterau a thechnoleg amlsynnwyr, gall ein harbenigwyr therapi helpu’ch plentyn i gyfathrebu, cael hwyl ac ymgysylltu mwy â’i amgylchedd. Mae’r amhosibl yn bosibl. 

Gofal diwedd oes

Os yw eich plentyn yn agosáu at ddiwedd oes, gallwn helpu i sicrhau bod eich teulu cyfan yn cael y gofal a’r gefnogaeth arbenigol sydd ei angen arnynt drwy gydol y cyfnod anodd hwn.

Ceisiwch gymorth emosiynol heddiw

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech fod yn eu profi, gallwn helpu.  

Mae gennym ymarferwyr cymorth i deuluoedd sydd wedi’u hyfforddi hyd at safon uchel sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch neges e-bost i familysupport@tyhafan.org i drefnu sgwrs ag ymarferydd cymorth i deuluoedd heddiw.