Cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth 

O gael gafael ar offer, i ddod o hyd ir ysgol gywir, i hawlio cymorth ariannol, gall bywyd fod yn gymhleth pan fyddwch chin gofalu am blentyn ag anghenion cymhleth. 

Ond rydym ni eisiau rhoi gwybod i chi ein bod ni yn eich cefnogi. Rydym ni yma i roi cefnogaeth ac eiriolaeth ymarferol arbenigol i chi i wneud pethaun symlach a gwella ansawdd bywyd eich teulu. 

Cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth

Sut gallwn ni eich helpu chi

Rydym yn cynnig ystod o gefnogaeth ymarferol a chyngor i helpu i sicrhau eich bod yn gwybod am yr holl gefnogaeth sydd ei angen ar eich plentyn ac aelodau or teulu ach bod yn gallu manteisio arno. 

Eiriolaeth

Gallwn ni eich helpu i fynegi eich barn a’ch dymuniadau, i wneud penderfyniadau a sefyll dros eich hawliau. Rydym ni yma i ymladd eich cornel fel eich bod chi’n cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi ac nad ydych chi’n teimlo ar eich pen eich hun.

Gwasanaethau llywio

Rydym ni’n gwybod bod y systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn aml yn gymhleth ac yn anodd iawn eu llywio. Ond rydym ni yma i leihau’ch pryderon a helpu i wneud eich bywyd yn haws.

Cyfeirio at gymorth arall

Gallwn siarad â chi am sefydliadau ac elusennau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a allai eich helpu chi, eich plentyn ac aelodau eraill o’r teulu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.

Cymorth gyda budd-daliadau

Gall gofalu am blentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd gael effaith enfawr ar eich cyllid. Gallwn ni siarad â chi am fudd-daliadau a chymorth ariannol arall y gallech chi fod â hawl iddynt a sut i fanteisio arnynt.

Offer a thechnoleg

Yn ansicr pa offer neu dechnoleg fydd yn helpu’ch plentyn yn eich cartref? Neu’n cael trafferth i gael yr offer a’r dechnoleg sydd eu hangen arnoch chi? Croeso i chi gysylltu â ni. Gallwn ni helpu.

Pontio i wasanaethau oedolion  

Rydym ni’n gwybod y gall hi fod yn anodd pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 18 oed ac nad yw’n bosibl bellach iddyn nhw aros yn ein hosbis. Ond mae ein gwasanaeth pontio penodol yn gallu gweithio’n agos gyda’ch gwasanaethau teuluoedd ac oedolion a’ch hosbisau i sicrhau bod modd gofalu am anghenion eich plentyn a’ch bod i gyd yn teimlo’n hyderus am y dyfodol.  

Ar ben hyn, gallwch chi a’ch plentyn ddod i ddigwyddiadau cymdeithasol Tŷ Hafan drwy gydol y flwyddyn a defnyddio ein gwasanaethau galw heibio i aros mewn cysylltiad â ni a manteisio ar amrywiaeth eang o gefnogaeth. 

Yma i Helpu

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein cefnogaeth ymarferol neu fanteisio ar unrhyw agwedd on cefnogaeth ymarferol, cysylltwch ân tîm cymorth i deuluoedd ar 02920 532200 neu ar familysupport@tyhafan.org 

Ar ôl i ni asesu tŷ Jordan, roedd hi’n amlwg nad oedd y dyluniad a’r cynllun yn ddiogel iddo. Felly gwnaethom ni gysylltu â gwasanaethau eraill ac ymgyrchu am dros flwyddyn i ymdrin â’i anghenion o ran ei gartref. 

Erbyn hyn, mae ei deulu’n hapus yn byw mewn byngalo mawr, tair ystafell wely gyda gardd fawr gaeedig.   

O ganlyniad, yn araf deg mae mam Jordan wedi dadlapio’r gwlân cotwm yr oedd hi wedi’i osod o amgylch Jordan a chaniatáu mwy o ryddid iddo. Rhywbeth sydd wedi rhyddhau sbardun o ddatblygiad meddyliol a chorfforol.

- Shirley Valentino, Ymarferydd Cymorth i Deuluoedd yn Nhŷ Hafan

Mae cefnogaeth emosiynol ar gael heddiw 

Os hoffech chi siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech chi fod yn eu hwynebu, gallwn ni helpu.  

Mae gennym ni ymarferwyr cefnogi teuluoedd sy’n gymwys iawn ac sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch e-bost at familysupport@tyhafan.org i drefnu siarad ag ymarferydd  cefnogi teuluoedd heddiw. 

Explore more

Arhosiadau seibiant mewn argyfwng

Efallai y bydd adegau pan fydd anghenion gofal eich plentyn yn fwy cymhleth a beichus neu efallai bod sefyllfa deuluol yn golygu bod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch. Os yw hyn yn wir, fe wnawn ein gorau i gynnig seibiant byr i chi.

Rheoli symptomau

Mae ein gweithwyr gofal arbenigol yn gymwys iawn i reoli poen a symptomau eraill y gallai plant sydd â chyflwr syn byrhau bywyd eu hwynebu. 

Cefnogaeth i deuluoedd

Mae ein hamrywiaeth o therapïau yn cynnwys therapi cerdd, therapi chwarae, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a therapïau cyflenwol fel tylino ac aromatherapi.

Cymorth profedigaeth

Rydym nin deall bod galar yn wahanol i bawb. Dyna pam yr ydym nin cynnig cymorth profedigaeth penodol i unigolion a theuluoedd cyfan cyhyd ag y mae ei angen.