Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei Dad ar 1af Mawrth. Byddaf yn dragwyddol ddiolchgar am yr atgofion y caniataodd Tŷ Hafan inni eu gwneud a pharhau i’w gwneud hyd heddiw.
- Sara Morris, mam Alfi's
Bob dydd mae miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn byw gyda’r ofn y gallai fod yn ddiwrnod olaf eu plentyn. Dywedir wrth lawer o deuluoedd i ‘ffarwelio â’u plentyn’ o leiaf bum gwaith cyn i’r diwrnod y maent wedi bod yn ei ofni ddigwydd mewn gwirionedd.
Ychydig iawn o ddewis sydd ar gael i deuluoedd ynglŷn â lle bydd eu plentyn yn marw y tu allan i Dŷ Hafan. Yn aml, nid yw’r rhai sy’n marw yn yr ysbyty yn cael fawr o gefnogaeth ac yn cael eu hanfon adref yn gyflym, heb wybod ble i droi.
Mae teuluoedd plant sydd wedi marw yn dweud wrthym eu bod yn aml yn teimlo eu bod wedi eu gadael ar ôl marwolaeth eu plentyn, gallan nhw ddim dechrau meddwl am gynllunio’r angladd, dydyn nhw ddim yn gwybod sut i alaru a dydyn nhw ddim yn gwybod sut y byddan nhw’n mynd ymlaen.
Rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni anhygoel pawb sydd wedi cyfrannu at ein hapêl hyd yn hyn! Os nad ydych wedi cael cyfle i gyfrannu eto, nawr yw’r amser perffaith. Mae pob cyfraniad, mawr neu fach, yn mynd yn uniongyrchol i helpu teuluoedd yng Nghymru drwy fywyd byr eu plentyn, ac yna drwy brofedigaeth.
Yn ein hosbis, ac mewn cartrefi a chymunedau yng Nghymru, rydym yn darparu gwasanaethau gofal arbenigol i helpu plant a phobl ifanc sy’n ddifrifol wael i gael hwyl, magu hyder a theimlo’n well, yn gorfforol ac yn feddyliol.
Er mwyn darparu ein gwasanaethau sy’n newid bywydau, mae angen eich help arnom. Drwy roi, codi arian neu wirfoddoli, byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth wirioneddol i’r rhai sydd eu hangen.
Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.