Stori Winnie
Roeddem ni yn yr uned gofal dwys pan wnaeth meddyg sôn am Tŷ Hafan am y tro cyntaf. Doedd Anton ddim yn gwybod beth oedd e, ond roeddwn i’n gwybod. ‘Hosbis yw Tŷ Hafan,’ meddyliais. ‘Dydy Winnie byth yn mynd i fynd yno.’
Roeddem ni yn yr uned gofal dwys pan wnaeth meddyg sôn am Tŷ Hafan am y tro cyntaf. Doedd Anton ddim yn gwybod beth oedd e, ond roeddwn i’n gwybod. ‘Hosbis yw Tŷ Hafan,’ meddyliais. ‘Dydy Winnie byth yn mynd i fynd yno.’
Doedd Winnie ddim fel ei brodyr hŷn, Arthur a Henry. Roedd hi’n beth bach eiddil. Roedd y bechgyn wrth eu bodd â’u bwyd, ond doedd Winnie ddim yn fwytwr mawr o gwbl. Ond roedd hi’n fabi hapus, bodlon gyda llygaid mawr glas a gwallt golau.
Roeddwn i mor hapus, roedd ein teulu yn berffaith a nawr roedd yn gyflawn. Roedd gen i ferch. Roedd gen i ferch felly gallwn i gael y cwlwm arbennig hwnnw sydd gennyf i a fy mam.
Wrth i amser fynd heibio, dechreuodd golli pwysau, ac er y byddai hi’n gwenu ac yn chwerthin, doedd hi ddim yn siarad. Roeddwn i’n credu ei bod hi ychydig y tu ôl, dyna’i gyd.
Rhowch heddiwYna dechreuodd Winnie dawelu. Roedd hi’n wyth mis oed ac yn yr ysbyty gyda phroblemau stumog. Ond yna dywedodd y meddygon wrthym eu bod wedi dod o hyd i ran gwyn ar ei hymennydd.
Dywedon nhw wrtha i ac Anton am fynd adref a threulio cymaint o amser â phosib gyda Winnie gan nad oedden nhw’n gwybod faint o amser oedd ganddi ar ôl.
Allwn i ddim – a fyddwn i ddim – yn credu’r peth.
Cawson ni Winnie adref am bedair wythnos. Roeddem ni’n brysur iawn ond roeddwn i’n barod i wneud unrhyw beth iddi. Roedd hi’n dwlu ar Wotsits a Popadoms ac roedd yn gallu cael beth bynnag yr oedd hi ei eisiau! Ac roedd hi’n addoli ei brodyr mawr.
Ond aeth hi’n sâl eto, aeth yn ôl i ofal dwys ac ychydig wythnosau wedyn roedd sgan arall yn dangos bod y rhan gwyn wedi tyfu. Dywedodd y meddygon wrthym fod gan Winnie Glefyd Alexander, ac nad oedd hi’n mynd i wella. Dyna’r adeg y gwnaethom ni sylweddoli.
Rhowch heddiwRoeddwn i wedi casáu’r syniad o Tŷ Hafan, ond wrth fynd i fyny’r dreif gyda Winnie, roedd yn ddiwrnod poeth, roedd yr holl blanhigion yn eu blodau ac roedd gwenyn a gloÿnnod byw. Roedd yn hudolus. Rydych chi’n teimlo’n heddychlon. Mae popeth wedi codi. Rydych chi’n mynd i fyny a dros y bryn ac mae fel eich bod yn codi oddi ar y ddaear. Rydych chi gam yn agosach i’r nefoedd.
Heb yr holl diwbiau a monitorau, roedd Winnie y gorau iddi fod mewn amser hir – y mwyaf rhydd. Fe wnes i hyd yn oed fynd â hi allan yn fy mreichiau am ychydig. Roedd hi fel petai hi wedi cael yr un hwb olaf hwnnw o egni i ffarwelio â phawb. Mae’r amser byr hwnnw’n golygu cymaint i ni, y bechgyn a’n teulu i gyd.
Arhosais gyda hi y noson honno. Roeddwn i’n teimlo’n ddiwerth ac yn ofnus. Ond roedd Kirsty gyda ni drwy’r amser, ac Emma. Roedden nhw’n wych ac fe setlodd Winnie yn y diwedd.
Rhowch heddiwWrth i’r haul godi, roeddem yn eistedd ar y sil ffenest yn edrych lawr ar y traeth. Roedd hi’n dawel, ond gallech chi glywed y môr ac rwy’n gwybod bod hynny wedi cysuro Winnie, fel yr oedd yn ein cysuro ni. Dim ond ni a byd natur – gwenyn, robin goch, piod, wiwerod a chnocell y coed. Roedd gan bawb eu gwaith i’w wneud. Bu farw Winnie yn fy mreichiau yn gynnar y prynhawn hwnnw ac roedd popeth yn brydferth.
Roedd ein profiad yn Nhŷ Hafan yn arallfydol. Gadawom ni’r hosbis ar ôl marwolaeth Winnie yn teimlo’n ysgafnach, ond yn ansicr o’r llwybr o’n blaenau. Ond beth bynnag fydd ein llwybr nawr, rydym wedi cael ein cefnogi gan Dŷ Hafan, ac yn dal i gael ein cefnogi ganddyn nhw.
Mae pob teulu sy’n wynebu marwolaeth eu plentyn yn haeddu cael yr un gefnogaeth gan Dŷ Hafan ac yr ydym ni yn ei chael.
Rhowch heddiwRydyn ni’n anhygoel o ddiolchgar am haelioni rhyfeddol pawb sydd wedi cyfrannu i’n hapêl hyd yn hyn! Os nad ydych wedi cael cyfle i roi eto, nawr yw’r amser perffaith i wneud hynny. EBydd pob cyfraniad, mawr neu fach, yn mynd yn uniongyrchol i helpu teuluoedd yng Nghymru drwy fywyd byr eu plentyn, ei farwolaeth a thu hwnt.
Yn rhan o’n hymgyrch, rydym yn falch o rannu straeon o’r galon gan dri teulu anhygoel sydd wedi’u heffeithio gan gefnogaeth Tŷ Hafan. Mae pob stori yn fodd pwerus o atgoffa o rôl allweddol eich cyfraniadau wrth roi gofal a chefnogaeth i deuluoedd fel y rhain.
Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan oedd Violet yn marw, roedden nhw yna i ni pan fu hi farw ac maen nhw wedi bod yna i ni bob amser ers hynny. Dyna sydd ei angen ar bob rhiant pan fyddan nhw’n colli plentyn ac mae fy nghalon yn torri o wybod nad yw pob teulu yn cael hynny.
I ddechrau, doeddwn i ddim eisiau mynd yno, roeddem ni’n meddwl mai rhywle yr oedd plant yn mynd i farw ydoedd, ond roeddem ni’n gwbl anghywir. Pan aethom ni yno i edrych o gwmpas, cefais fy syfrdanu. Doedd e ddim yn drist nac yn morbid; mae’n lle hyfryd. Yr adegau y casom ni gyda’n gilydd yn Tŷ Hafan oedd y mwyaf gwerthfawr. Rwy’n trysori’r atgofion hynny.
Roedd Tŷ Hafan yn dawel ac yn heddychlon, felly dyna ble y treuliodd Zach ei ddiwrnodau olaf. Roedd yn ôl mewn amgylchedd digyffro heb yr holl archwiliadau, profion a nodwyddau parhaus. Cafodd le i ymlacio.