cyffredinย
Our focus is to work with health and social professionals to make sure children with life-shortening conditions and their families receive the best specialist palliativeโฏcare and support available. So we have created a list of frequently asked questions to help answer your queries.
And if you canโt find the information you need, please get in touch with our Family Support team at familysupport@tyhafan.org or on 029 2053 2200.
Sut mae Tลท Hafan yn diwallu anghenion gofal lliniarol y plant y maeโn gofalu amdanynt?
Rydym yn cydnabod y pedair elfen syโn golygu gofal llwyr: corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol. Mae hyn yn golygu ein bod yn darparu pecyn pwrpasol o ofal lliniarol arbenigol i bob plentyn ac aelod oโu teulu.ย
Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i asesu anghenion, cynllunio gofal, rhoi'r gofal hwnnw ar waith ac yna ei werthuso.ย
Gall ein cymorth gael ei darparu am ddyddiau, wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.ย
Pa ofal diwedd oes a ddarperir gan Tลท Hafan?
Rydym yn cynnig cyngor a chymorth gofal diwedd oes arbenigol syโn rhoi cysur gwerthfawr i deuluoedd ac yn eu harwain drwy agweddau cyfreithiol, moesegol ac ymarferol marwolaeth plentyn.ย
Rydym ni yma hefyd i ddarparu cymorth mewn profedigaeth i aelodau'r teulu cyhyd ag y bydd ei angen arnynt.
Faint o blant y mae Tลท Hafan yn gofalu amdanynt?
Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi tua 270 o blant aโu teuluoedd, tua 50 o bobl ifanc aโu teuluoedd syโn pontio i wasanaethau oedolion, a tua 120 o deuluoedd mewn profedigaeth. At ei gilydd, ers 1999, mae Tลท Hafan wedi cefnogi mwy na 650 o deuluoedd yn yr hosbis ac yn y gymuned. ย
Rydym yn darparu arhosiadau preswyl yn ein hosbis, yn ogystal รข gweithio mewn partneriaeth รข gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ddarparu gofal lliniarol arbenigol ar gyfer rheoli symptomau a gofal diwedd oes.
Faint yw oed y plant aโr bobl ifanc syโn defnyddio Tลท Hafan?
Rydym yn cefnogi ac yn gofalu am blant o adeg eu geni hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed. Os bydd person ifanc yn cyrraedd 18 oed, ni fydd yn gallu dod i Tลท Hafan i gael gofal seibiant byr mwyach, ond rydym yn parhau iโw gefnogi aโi helpu drwyโr cyfnod pontio i wasanaethau oedolion. Gall hyn gynnwys defnyddio hosbis i oedolion.ย
O ble y maeโr plant aโr bobl ifanc y mae Tลท Hafan yn eu cefnogi yn dod?
Ein dalgylch yw canolbarth, de a gorllewin Cymru (o Aberystwyth i lawr). Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i gefnogi plentyn neu berson ifanc ble bynnag y maent yn byw yng os gofynnir amdano.
Pa gyflyrau syโn byrhau bywyd sydd gan y plant aโr bobl ifanc syโn derbyn gofal gan Tลท Hafan?
Gall cyflyrau syโn byrhau bywyd gwmpasu ystod eang o broblemau iechyd gwahanol, ac nid oes gan bob un ohonynt ddiagnosis penodol. Mae'r plant syโn gymwys ar gyfer cymorth yn Tลท Hafan yn debygol o fod ag anghenion iechyd cymhleth iawn ac yn aml bydd ganddynt lu o broblemau anabledd a nam ar y synhwyrau, syโn golygu bod y tebygolrwydd o farwolaeth yn ystod plentyndod yn uchel. Gall hyn gynnwys plant y mae ganddynt salwch syโn byrhau bywyd oherwydd cyflyrau a gafwyd fel diffyg ar yr organau a chanser, neu oherwydd digwyddiad acรญwt, fel damwain neu haint difrifol, e.e. llid yr ymennydd.
A oes rhestr aros am gymorth Tลท Hafan?
Os bydd rhieni plentyn yn fodlon iddo gael ei gyfeirio i Tลท Hafan, mae angen iddynt gwblhau ffurflen yn rhoi caniatรขd i ni ofyn iโw pediatregydd am adroddiad meddygol.ย
Mae'n bosibl y bydd angen i ni wedyn gynnal asesiad o blentyn neu berson ifanc cyn cynnig cymorth, syโn golygu nad yw ein gwasanaethau bob amser ar gael ar unwaith. Fodd bynnag, mae gennym broses atgyfeirio brys, syโn ein galluogi i gynnig cymorth ar unwaith, os bydd ei angen, e.e. ar gyfer plentyn y mae angen gofal diwedd oes arno.ย ย
Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gymwys i ddefnyddio ein gwasanaethau, byddwn wedyn yn nodi ei anghenion ac anghenion aelodau ei deulu er mwyn helpu i lunio rhaglen ofal bersonol.
Pa weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn Tลท Hafan?
Mae gennym amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sydd รข phrofiad helaeth o nyrsio gofal lliniarol a chymorth i deuluoedd a all weithio gyda chi, eich Bwrdd Iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol.ย
Maeโr rhain yn cynnwys:ย
- ymgynghorydd gofal lliniarol pediatrigย
- nyrsys pediatrigย
- gweithwyr cymorth gofal iechydย
- nyrsys anabledd dysguย
- gweithwyr proffesiynol cymorth i deuluoeddย
- ffisiotherapyddionย
- therapyddion galwedigaetholย
- therapyddion cerddย
- arbenigwyr chwaraeย
- therapyddion cyflenwolย
Sut le yw hosbis Tลท Hafan?
Mae ein hosbis yn cynnwys offer a thechnoleg o'r radd flaenaf er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'r cymorth gorau posibl i'r plant rydym yn gofalu amdanynt. Ond yn llawer mwy na hyn, mae hefyd yn lle hapus a chartrefol lle gall plant a phobl ifanc gael llawer o hwyl, cwrdd รข ffrindiau newydd ac ymlacio.ย
Ymhlith y cyfleusterau y mae ystafelloedd chwarae lliwgar, ardaloedd cerdd, ystafelloedd synhwyraidd, pwll hydrotherapi mawr ac ardal bwrpasol i bobl ifanc.
Mae gennym hefyd ddeg ystafell wely breifat i blant, llety i deuluoedd ac ardaloedd hardd yn yr awyr agored i blant a'u teuluoedd eu mwynhau.ย
Ble mae hosbis Tลท Hafan?
Mae'r hosbis ger Sili, ym Mro Morgannwg, de Cymru. Fodd bynnag, darperir llawer o'n gwasanaethau yn y gymuned.
A yw hosbis Tลท Hafan yn cau o gwbl?
Mae ein hosbis ar agor drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn darparu gwasanaeth ar alwad 24 awr. Byddwn yn darparu llety i deulu mewn argyfwng.
Pwy sy’n monitro’r gofal a ddarperir gan Tลท Hafan?
Cawn ein monitro gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) drwy arolygiadau lle rhoddir rhybudd ac arolygiadau dirybudd. Gellir darllen adroddiadau AGIC am Tลท Hafan yn agic.org.ukย