Cymryd rhan mewn digwyddiad

Mae cymryd rhan mewn digwyddiad Tŷ Hafan neu drefnu eich digwyddiad eich hun yn ffordd wych o godi arian, gwneud rhywbeth cadarnhaol iawn a chael llawer o hwyl. 

Felly, dewch ‘mlaen! Gadewch i ni wneud hyn. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi bweru ein gwaith hollbwysig a helpu i ddarparu cymorth gwerthfawr i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. 

Cymryd rhan mewn digwyddiad

Dringo 3 chopa Cymru

Mae ein her 3 Chopa Cymru yn sialens a hanner! Bydd yn rhaid i chi gerdded tua 17 o filltiroedd a dringo dros 2,300 o fetrau i gyrraedd copa’r Wyddfa, Cadair Idris a Phen-Y-Fan.  

Pam gwneud hyn? I godi arian! Yn ogystal â mwynhau golygfeydd trawiadol a gwneud ffrindiau newydd, byddwch yn helpu i weddnewid bywydau plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.  

 

Cofrestrwch eich diddordeb

Eich cefnogi chi 

Os ydych yn hen law ar godi arian neu’n ystyried cynnal eich digwyddiad cyntaf, roeddem eisiau i chi wybod ein bod ni yma i’ch cefnogi. 

Gall ein tîm codi arian profiadol iawn ateb eich holl gwestiynau, rhoi hwb i chi pan fo angen, a gwneud cynnal digwyddiad yn llawer haws. 

Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni ar events@tyhafan.org neu 029 2053 2255. Mae ein hoff bynciau yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ddigwyddiadau penodol ac awgrymiadau codi arian i helpu i godi llwyth o arian. 

Rhedeg i TÅ· Hafan

O 5k i farathon, mae llawer o ddigwyddiadau rhedeg gwych y gallwch gymryd rhan ynddynt i gefnogi ein gwaith. 

Beicio i TÅ· Hafan

Beth am fwynhau golygfeydd trawiadol a chodi arian i dalu am ein gwasanaethau drwy wneud her beicio yng Nghymru neu’r tu hwnt?

Cerdded i TÅ· Hafan

Ewch allan ar daith gerdded gyda theulu a ffrindiau i’n helpu ni i gyrraedd a chefnogi mwy o blant a theuluoedd yng Nghymru.

Adnoddau codi arian ar eich cyfer chi 

Rydym wedi creu canllaw codi arian gwych sy’n berffaith ar eich cyfer chi. Mae’n llawn cyngor gwych, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian.   

Ar ben hyn i gyd, mae gennym bosteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall y gallwch ei gael am ddim. Maent yn berffaith ar gyfer denu sylw at eich digwyddiad codi arian a’i wneud yn llwyddiant mawr.  

Fundraising Resources
virtual-fundraising-hero

Codi arian yn rhithiol

Ydych chi’n gwybod pa ddigwyddiad codi arian yr hoffech ei drefnu? Neu ydych chi’n chwilio am syniadau i’ch ysbrydoli? Pa bynnag gam yr ydych arno, gallwn eich helpu i godi llwyth o arian a chael llawer o hwyl.  

organise-your-own-event

Trefnu eich digwyddiad eich hun

Ydych chi’n gwybod pa ddigwyddiad codi arian yr hoffech ei drefnu? Neu ydych chi’n chwilio am syniadau i’ch ysbrydoli? Pa bynnag gam yr ydych arno, gallwn eich helpu i godi llwyth o arian a chael llawer o hwyl. Â