Rydyn ni bob amser yma i helpu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i events@tyhafan.org. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Dyddiad y digwyddiad
10 Awst 2024
Lleoliad
Maes Awyr Abertawe
Cofrestru
£50 (+£2.50 ffi archebu)
Targed nawdd
£500
Naid dandem o’r awyr yw’r her anturus hon, o 10,000 troedfedd a theithio ar gyflymder o hyd at 120 mya!
Cost cofrestru yw £50 (+ £2.50 ffi archebu) a gofynnwn i chi godi o leiaf £500 mewn nawdd. Byddwch yn cael pecyn codi arian a chefnogaeth lawn tîm Tŷ Hafan i’ch helpu i gyrraedd eich targed codi arian yn llwyddiannus.
Does dim angen profiad blaenorol arnoch – bydd yr holl hyfforddiant angenrheidiol yn cael ei roi ar y dydd.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pobl 18 oed neu hŷn.
Cofrestrwch heddiwRhaid i bawb sy’n awyrblymio fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen feddygol, ac mewn rhai achosion bydd angen i’ch meddyg lofnodi’r ffurflen hefyd i ardystio eich bod yn ddigon iach i neidio.
Y cyfyngiad pwysau ar gyfer Maes Awyr Abertawe yw 18 stôn (bydd cost ychwanegol o £10 ar gyfer pob stôn dros 15 stôn).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyflyrau meddygol neu gyfyngiadau pwysau cysylltwch ag events@tyhafan.org neu info@skylineevents.co.uk cyn archebu eich lle.
Mae naid dandem yn rhoi’r profiad o gwymp rhydd heb fod angen llawer o hyfforddiant. Byddwch yn cwympo’n rhydd o 10,000 troedfedd o uchder o leiaf a bydd y parasiwt yn agor ar 5,000 troedfedd. Byddwch yn dod i lawr yn araf am y filltir olaf gyda’ch hyfforddwr ac yn glanio’n ysgafn. Mae’n brofiad perffaith ar gyfer eich naid gyntaf gan eich bod ynghlwm wrth hyfforddwr sy’n gwneud y gwaith caled i chi. Mae hyn yn golygu eich bod yn rhydd i fwynhau’r olygfa!
Mae awyrblymio yn weithgaredd sy’n dibynnu ar y tywydd. Bydd y maes awyr yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl neidwyr yn gallu neidio ar y dydd, ond gallai hyn olygu aros o gwmpas am y tywydd gorau. Os na all y naid fynd yn ei blaen am resymau diogelwch, bydd y maes awyr yn ceisio rhoi gwybod i ni ymlaen llaw, a byddwn yn gweithio gyda nhw i aildrefnu dyddiad y naid.
Byddwch yn cael siwt neidio yn y maes awyr ar y dydd. Bydd angen i chi wisgo dillad cyfforddus oddi tano ac esgidiau addas sy’n clymu (mae esgidiau rhedeg neu rywbeth tebyg yn ddelfrydol). Rydym yn argymell gwisgo sawl haen ar ddiwrnod oerach a gwisgo menig sgio (dewisol).
Cewch wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd. Byddwch yn cael gogls yn y maes awyr i wisgo drostynt.
Ydyn, mae croeso i ffrindiau a theulu ddod i’ch cefnogi! Mae caffi ar y safle yn gwerthu bwyd a diod.
Sylwer, ni chaniateir cŵn ym Maes Awyr Abertawe.
Bydd angen codi o leiaf £500, a gofynnwn i chi ei godi erbyn wythnos cyn y naid. Os na fyddwch yn codi’r lleiafswm mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu’r gweddill cyn neidio.
Mae codi arian ar-lein yn ffordd wych o godi arian nawdd. Pan fyddwch yn creu tudalen codi arian ar-lein yn www.justgiving.com chwiliwch am ‘Tŷ Hafan Skydive 2024’ fydd yn cysylltu eich tudalen â’r digwyddiad. Bydd yr arian o Just Giving yn dod yn awtomatig i Tŷ Hafan, felly pan fyddwch wedi creu eich tudalen a’i rhannu gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr, does dim angen i chi wneud dim byd arall.
Gwych! Dim ond ychydig o funudau y bydd yn ei gymryd i gofrestru.
Cofrestrwch heddiwOs oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i events@tyhafan.org. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.