Cymru lle mae pob plentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd yn byw bywyd llawn boddhad, wedi’i gefnogi gyda’r tosturi a’r gofal arbenigol sydd ei angen arno ef a’i deulu.
Ni ddylai unrhyw deulu orfod wynebu’r boen annirnadwy o golli eu plentyn ar eu pen eu hun. Gyda phlant a theuluoedd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, rydym yn rhoi gofal a chymorth am ddim yn ein hosbis ac yn ein cymuned, gan gynnig achubiaeth trwy gydol bywyd byr y plentyn, ar ddiwedd oes, drwy brofedigaeth a thu hwnt.
Yn ein hosbis, ac mewn cymunedau a chartrefi teuluoedd yng Nghymru, rydym yma i ofalu am y plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen ni, gan helpu i wneud eu bywydau byr mor llawn â phosibl, a phan ddaw’r amser, i roi gofal diwedd oes a gofal profedigaeth parhaus. Mae ein cymorth arbenigol hefyd yn ymestyn i rieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu, gan gynnig cymorth personol i roi cryfder iddyn nhw, i greu atgofion gwerthfawr gyda’i gilydd ac i wella ansawdd eu bywyd.
Pan fydd aelodau teulu’n gofalu am blentyn y bydd ei fywyd yn fyr, yn aml maen nhw’n wynebu brwydr feunyddiol heb y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Ar hyn o bryd, nid yw 90% o deuluoedd yng Nghymru y bydd bywyd eu plentyn yn fyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ni ddylid caniatáu i hyn ddigwydd.
Ein huchelgais yw, pan fydd bywyd plentyn yn fyr, na ddylai unrhyw deulu orfod ei fyw ar ei ben ei hun. Rydym yn credu y dylai pob teulu gael mynediad at y gofal sydd ei angen arno drwy fywyd, marwolaeth a thu hwnt. Rydym yn gwybod bod hon yn uchelgais fawr ac rydym yn gwybod na fydd yn hawdd, ond rydym yn credu y gallwn ni, gyda’n gilydd, sicrhau na fydd unrhyw deulu yng Nghymru yn wynebu bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.