Ein stori 

Ar ôl 11 mlynedd o godi arian, agorodd Tŷ Hafan yn 1999 ac ar unwaith dechreuodd roi gobaith, cysur a chefnogaeth werthfawr i deuluoedd yng Nghymru. 

Mae ein stori arbennig yn un o garedigrwydd anhygoel, gwaith caled parhaus ac ymroddiad llwyr i ddod â hapusrwydd a llawenydd i fywydau’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi. 

Ein stori

Ein sylfaenydd ysbrydoledig  

Yn 1988, roedd Suzanne Goodal newydd ymddeol ac yn meddwl tybed sut y byddai hi’n llenwi ei hamser. Wedi iddi glywed am brofiad ffrind iddi yn gwirfoddoli i hosbis blant yn Swydd Efrog, dechreuodd Suzanne ar daith a fyddai yn newid ei bywyd hi a bywydau plant a theuluoedd yng Nghymru am byth. 

Daeth Suzanne i wybod, gan nad oedd hosbis i blant yng Nghymru, bod yna lawer o blant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau nad oedd yn cael y gofal yr oedd ei angen arnyn nhw neu eu teuluoedd. 

Yn benderfynol o newid hyn, lansiodd Suzanne ymgyrch codi arian i agor hosbis i blant yn ne Cymru. Diolch i haelioni’r cyhoedd, gwireddwyd gweledigaeth Suzanne yn 1999, pan agorwyd y drysau i’n hosbis am y tro cyntaf. 

Ers hynny, mae’r gwaith caled yn Tŷ Hafan wedi parhau. Gan fod Suzanne wedi bod mor ymrwymedig, penderfynol a charedig, mae hyn wedi ein hysbrydoli i wneud popeth y gallwn i gyrraedd a chefnogi pob plentyn, person ifanc a theulu sydd ein hangen ni. 

Nid oedd gen i yr un amheuaeth y byddai pobl Cymru, o ddeall y sefyllfa yr oedd y plant a’r teuluoedd hyn yn ei hwynebu, yn agor eu calonnau ac yn rhoi yn hael. Yn wir, roedd fy ffydd yn gwbl gyfiawn.

- Suzanne Goodall, Sylfaenydd Tŷ Hafan

An inspirational message from our founder Suzanne Goodall

 

Ein llinell amser 

Ers ein sefydlu yn 1990, rydym wedi gweithio’n galed i barhau i ddatblygu ein helusen a’n gwasanaethau er mwyn gallu bodloni holl anghenion plant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd. 

Cofrestru Tŷ Hafan fel elusen a lansio ymgyrch i godi arian yng Nghastell Caerdydd.