Barod i fod yn anhygoel?
Ein nod yw rhoi’r gofal a’r gefnogaeth gorau bosibl i sicrhau bod y plant yr ydym yn eu helpu yn byw bywyd llawn.
Ond y gwir amdani yw mai dim ond gyda chymorth pobl garedig a hael fel chi y gallwn wneud hyn. Mae pob ceiniog yr ydych yn ei chodi drwy eich gweithgareddau codi arian anhygoel yn hanfodol.
Mae eich amser a’ch ymdrech yn sicrhau ein bod ni yno ar gyfer teuluoedd yng Nghymru sydd yn aml dan bwysau aruthrol ac yn ymbil am gymorth.