Adnoddau codi arian
I helpu i roi hwb i’ch digwyddiad Tŷ Hafan, rydym wedi creu amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo i chi eu harchebu. Dewiswch o’r eitemau isod a phenderfynu faint ohonyn nhw y gallech fod eu hangen.
I helpu i roi hwb i’ch digwyddiad Tŷ Hafan, rydym wedi creu amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo i chi eu harchebu. Dewiswch o’r eitemau isod a phenderfynu faint ohonyn nhw y gallech fod eu hangen.
Pan fyddwch yn archebu eich adnoddau codi arian, cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a manylion y digwyddiad, ac archebwch cymaint o flaen llaw â phosibl.
Byddwch cystal ag archebu dim ond cymaint ag y bydd eu hangen arnoch a dychwelwch unrhyw ddeunyddiau na chafodd eu defnyddio i Tŷ Hafan. Bydd hyn yn arbed arian hanfodol i ni ac yn lleihau gwastraff.
Once you’ve got all that sorted, simply email your order to supportercare@tyhafan.org or give us a call on 029 2053 2255. When you get in touch, we’ll also be happy to answer any fundraising questions you may have.
Tynnwch sylw at eich digwyddiad drwy ddefnyddio ein posteri gwych.
Anogwch bobl i roi arian yn ein blychau casglu sy’n plygu.
Mae pawb wrth eu bodd â sticer, yn enwedig y plant.
Llenwch eich digwyddiad codi arian i Tŷ Hafan â’n balŵns gwyrdd.
Bydd y baneri hyn yn dangos eich bod o ddifri am godi arian.
Maent am ddim pan fyddwch yn ceisio codi o leiaf £100, neu gallwch eu prynu am £7 yr un.
Mae ein harbenigwyr codi arian wedi creu canllaw codi arian defnyddiol iawn i chi. Mae’n cynnwys cyngor gwych am wneud eich digwyddiad codi arian yn ddiogel ac yn gyfreithlon, awgrymiadau ymarferol o ran hyrwyddo eich digwyddiad a syniadau codi arian sydd wedi llwyddo yn y gorffennol a ddylai helpu i roi hwb i’ch incwm.
Lawrlwytho ein canllaw codi arian
Yn Tŷ Hafan, rydym wedi dysgu dros y blynyddoedd sut i wneud digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr.
Rydym ni eisiau i’r wybodaeth arbenigol hon fod o fudd i bawb sy’n codi arian i Tŷ Hafan. Felly rydym wedi nod ein pum awgrym gorau ar gyfer codi cymaint o arian â phosibl.
Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol,
fel Facebook, i ledaenu’r wybodaeth am eich digwyddiad.
Creu tudalen rhoi ar-lein
sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl eich cefnogi chi.
Archebu deunyddiau hyrwyddo Tŷ Hafan
a’u defnyddio yn eich cymuned.
Cysylltu â’r cyfryngau lleol
i ddweud wrthynt am eich digwyddiad codi arian.
Gofyn i’ch cyflogwr am eu polisi rhoi arian cyfatebol
i ddyblu eich cyfanswm.