Sut gallwn ni helpu 

Yn TÅ· Hafan, rydym yn arbenigwyr sy’n gofalu am blant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd ac yn cefnogi eu teuluoedd cyfan. 

Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar eich helpu chi i gael adegau hapus gyda’ch plentyn, gan greu atgofion i’w trysori am byth a gwneud bywyd yn well i bawb.

Ty Hafan - Home Page

Gofalu am blant

Rydym yn darparu gofal rhagorol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, i ddiwallu eu hanghenion unigol a’u helpu i gael ansawdd bywyd da. Darperir y gofal hanfodol hwn yn ein hosbis glyd a chroesawgar, mewn cymunedau ledled Cymru, mewn cartrefi teuluoedd ac ysbytai lleol. 

Cefnogaeth i deuluoedd 

Rydym yn gwybod bod gofalu am blentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd yn debygol o fod yn hynod o feichus i chi a’ch teulu. Ond rydyn ni eisiau i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.  
Rydym yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol hanfodol i helpu i leddfu eich pryderon ac i sicrhau nad ydych chi’n teimlo eich bod ar eich pen eich hun.  
Darganfod mwy

Sut rydym yn cefnogi pobl ifanc  

Ardaloedd arbennig yn ein hosbis. Gweithgareddau a digwyddiadau wedi eu teilwra. Grŵp cymorth ar gyfer brodyr a chwiorydd yn eu harddegau. A nyrs bontio benodedig i gefnogi pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.  

Rydym yn cynnig hyn a llawer iawn mwy i sicrhau bod pobl ifanc yn cael llawer o hwyl ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llwyr drwy gydol eu profiad yn TÅ· Hafan. 

Rhagor o wybodaeth

Cysylltu â ni  

Os hoffech chi wybod mwy am ein gwasanaethau a sut y gallwn eich helpu chi a’ch teulu, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n nyrsys clinigol arbenigol. 

Email the team

You can email the team at care@tyhafan.org

Call the team

You can call them on +44(029)21 475 375.