Gall eich aelodau newid bywydau

O glybiau chwaraeon a Merched y Wawr i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned a’r Seiri Rhyddion, rydym wedi gweithio gyda llawer o grwpiau mawr i’w helpu i godi arian hollbwysig ar gyfer ein gwasanaethau sy’n newid bywydau  

Cefnogaeth fel grŵp neu gymdeithas fawr

Felly, os ydych chi’n arwain grŵp neu’n rhan o bwyllgor codi arian, mae’r dudalen hon ar eich cyfer chi! Mae’r dudalen hon yn llawn syniadau codi arian ac awgrymiadau gwych i’ch helpu chi a’ch aelodau i wneud rhywbeth hyfryd dros blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd. 

Cysylltwch â’n tîm codi arian ar supportercare@tyhafan.org neu 029 2053 2199 i wybod mwy.

Ffyrdd o wella bywydau ifanc

Ein dewis ni fel eich elusen y flwyddyn

Dewiswch Tŷ Hafan yn bartner elusen ac fe wnawn ni weithio’n agos gyda chi i greu strategaeth codi arian wych a chynllun gweithredu ar gyfer eich grŵp neu eich clwb. Gallwch hefyd ddibynnu arnom ni i’ch cefnogi trwy gydol y flwyddyn.

Trefnu eich digwyddiad eich hun

O de parti, i ddisgo calan gaeaf, i nofio ym Mae Sili yn y gaeaf. Defnyddiwch eich dychymyg. Gallwch drefnu pob math o ddigwyddiad i godi arian hollbwysig ar gyfer gwasanaethau Tŷ Hafan

 

 

Cymerwch her neu dewch i ddigwyddiad

P’un a ydych yn cymryd rhan yn 3 Chopa Cymru neu’n ymuno â ni yn ein Cyngerdd Nadolig, gallwch gael hwyl a chodi arian hanfodol ar gyfer Tŷ Hafan.

Gwneud her neu ddod i ddigwyddiad 

Os byddwch yn gwneud ein her 3 Chopa Cymru neu’n ymuno â ni yn ein Cyngerdd Nadolig, byddwch yn cael hwyl ac yn codi arian hollbwysig i Ty Hafan.  

Bod yn greadigol

Yw eich aelodau yn wych am greu pethau? Eitemau wedi eu gwau efallai, gwaith celf neu fath arall o gynnyrch a wnaed â llaw. Anogwch nhw i fod yn greadigol, gwerthu eu heitemau a rhoi i gefnogi ein gwasanaethau.

 

Eich cefnogi chi 

Os oes gan eich grŵp lawer o brofiad o godi arian neu os ydych yn trefnu eich digwyddiad codi arian cyntaf, mae ein tîm codi arian yma i’ch cefnogi. 

Gallant ateb eich holl gwestiynau a rhoi hwb i chi pan fo angen, a gwneud codi arian i Tŷ Hafan yn llawer haws. 

Cysylltwch â nhw ar supportercare@tyhafan.org neu 029 2053 2199. Bydden nhw’n dwlu clywed gennych chi. 

Ffrindiau Sili Tŷ Hafan 

Sefydlwyd ein grŵp codi arian ym 1995, pan ddaeth Suzanne Goodall, sylfaenydd Tŷ Hafan, i siarad â ni am ei breuddwyd o fod â hosbis i blant ar gyrion ein pentref. 
 
Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, rydym mor frwdfrydig ac angerddol ag erioed ynghylch codi arian hollbwysig i Tŷ Hafan. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi cynnwys nosweithiau cwis, noson bampro i fenywod, noson gyri, helfa drysor i’r teulu, dawns haf a digwyddiad groto Nadolig gyda Siôn Corn.” 

Rhai o’n hoff ffyrdd o godi arian ar gyfer grwpiau 

Oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch chi neu eich aelodau i godi arian? Edrychwch ar ein pum ffordd orau o godi arian ar gyfer grwpiau, clybiau a sefydliadau. 

Diwrnod golff elusennol

Ewch i’ch clwb lleol a chynnal diwrnod golff i’ch aelodau a’ch ffrindiau.

Te parti prynhawn

Berwch y tegell a phobwch ychydig o gacennau i greu digwyddiad codi arian sydd bob amser yn llwyddo.

Dawns tei du

Dewiswch leoliad ysblennydd ac ychydig o adloniant a chynnal noson wych o godi arian.

Eillio pen noddedig

Ydy eich aelodau yn ddigon dewr i ymgymryd â’r her o eillio eu pennau? Wrth gwrs eu bod nhw!

Digwyddiad Nadoligaidd

Gwnewch y mwyaf o dymor hael y Nadolig a chynnal cyngerdd Nadolig, parti Nadolig neu wasanaeth lapio anrhegion.

Cael ychydig o gydnabyddiaeth am eich ymdrechion gwych

Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn diolch yn rheolaidd i chi a’ch tîm am eich ymdrechion ac yn cael y newyddion diweddaraf am y gwahaniaeth anhygoel y mae eich cyfraniad yn ei wneud.  

Gan ddibynnu ar faint y byddwch yn ei godi, gallai enw eich grŵp gael ei roi ar ddeilen neu afal efydd, arian neu aur ar y Goeden Roddion yn ein prif swyddfa. 

Derbyn rhoddion ar-lein

Mae creu tudalen codi arian ar-lein trwy wefan fel JustGiving yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o ymdrechion codi arian eich grŵp a pham yr ydych yn cefnogi Tŷ Hafan. 

Yn bwysig, mae hefyd yn rhoi ffordd hawdd i bobl sydd eisiau eich cefnogi i roi arian. Ond gan fod llawer o grwpiau yn codi arian ar gyfer gwahanol elusennau y dyddiau hyn, cofiwch wneud eich tudalen yn drawiadol a chynnwys eich storïau personol, lluniau a’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd.

Sut i godi cymaint o arian a phosibl

 

Yn Tŷ Hafan, rydym wedi dysgu dros y blynyddoedd sut i wneud codi arian yn llwyddiant mawr.  

Rydym eisiau i bawb sy’n codi arian i ni elwa ar ein holl arbenigedd. Felly rydym wedi nodi ein pum awgrym gorau er mwyn i’ch grŵp godi cymaint o arian â phosibl. 

  1. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, i ledaenu’r wybodaeth am eich digwyddiad.
  2. Creu tudalen rhoi ar-lein sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl eich cefnogi.
  3. Gofyn am rai o ddeunyddiau hyrwyddo Tŷ Hafan a’u defnyddio yn eich cymuned.
  4. Cysylltu â’ch cyfryngau lleol a dweud wrthynt eich bod yn codi arian.
  5. Annog eich aelodau i ofyn i’w teulu a’u ffrindiau gymryd rhan hefyd.

Oes angen mwy o gyngor codi arian arnoch? Dyma’r lle i chi. Lawrlwytho ein canllaw codi arian. Mae’n cynnwys hyd yn oed mwy o awgrymiadau gwych a syniadau codi arian.

Sut y byddwn yn defnyddio’r arian anhygoel a godwyd gennych 

 

£50

Gallai £50 dalu am awr o therapi cerdd sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol i blant, ffordd o ymlacio ac anghofio am eu cyflwr a modd o fynegi eu hunain. 

£231

Gallai £231 dalu am nyrs wedi’i hyfforddi i ofalu am blentyn trwy gydol y nos gan roi hoe haeddiannol iddynt rhag bod yn ofalwr 

£458

Gallai £458 dalu am ddeunyddiau celf a chrefft i blant eu defnyddio mewn sesiynau therapi chwarae am flwyddyn gyfan. 

Dywedwch wrthym am eich gweithgareddau codi arian

    Eich manylion

    Enw cyntaf
    Cyfenw
    Enw eich grŵp neu eich clwb
    E-bost
    Ffôn
    Dewiswch beth rydych yn bwriadu ei wneud

    Eich digwyddiad

    Os yw eich grŵp yn bwriadu trefnu neu gymryd rhan mewn digwyddiad, nodwch:
    Enw eich digwyddiad
    Dyddiad eich digwyddiad
    Faint o arian y mae eich grŵp yn bwriadu ei godi?
    Pam mae eich grŵp yn codi arian i Tŷ Hafan?


    Ticiwch yma i gadarnhau eich bod yn 18 oed neu’n hŷn, cysylltwch â’n tîm Gofal am Gefnogwyr ar 029 2053 2255 i gofrestru eich digwyddiad (llinellau ar agor 9am tan 5pm, Llun i Gwener). Bydd angen i chi fod â rhiant neu warcheidwad gyda chi i gwblhau eich cofrestriad.