Sut ydym ni’n ariannu ein gofal hanfodol
Bob blwyddyn, mae’n costio £5.6 miliwn i ni ddarparu ein gofal a chefnogaeth arbenigol i gefnogi plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd.
Mae’r rhan fwyaf o’r ffigwr hwn yn cael ei godi a’i roi gan ein cefnogwyr anhygoel o hael. Mae dirfawr angen am yr arian hwn oherwydd ein bod yn annibynnol ar y GIG ac nid oes gennym gyllid statudol wedi’i warantu.