435674

Codi arian yn rhithiol  

Mae codi arian yn rhithiol yn ffordd wych o gael pobl i gymryd rhan yn eich gweithgareddau codi arian, a hynny o gysur eich cartref 

Peth arall gwych am y math hwn o godi arian yw bod pobl o bob rhan o’r byd yn gallu cymryd rhan a chefnogi eich ymdrechion anhygoel 

virtual-fundraising-hero

Ein 10 ffordd orau o godi arian ar-lein  

Marathon gemau fideo

Casglwch eich teulu, ffrindiau a’ch cysylltiadau ar y we at ei gilydd i ffrydio marathon gemau yn fyw. Gofynnwch i chwaraewyr a gwylwyr i roi arian 

Gwerthu hen bethau

Ewch draw i ebay.co.uk/charity neu vinted.co.uk, dewiswch Tŷ Hafan (eBay yn unig) fel eich elusen o ddewis a gwerthwch eich eitemau i ariannu ein gwasanaethau hanfodol.

Her bersonol

Penderfynwch ar her anodd ei gwneud, fel rhedeg marathon neu feicio eich fersiwn eich hun o’r Tour de France. Gofynnwch i bobl eich cefnogi chi ar-lein.

Ffrydio tiwtorial

Rhannwch eich sgiliau a’ch gwybodaeth gyda phobl eraill mewn tiwtorial neu gyfres o wersi. Gofynnwch i’r bobl sy’n gwylio roi arian.

Cwis rhithiol

Dewiswch noson gyda theulu a ffrindiau i gynnal cwis gan ddefnyddio Zoom, FaceTime neu Microsoft Teams  

Cynghrair Ffantasi

Gallech greu cynghrair ffantasi bêl-droed, Chwe Gwlad neu griced neu swîp a gofyn i bobl roi rhodd i gymryd rhan. Gallech roi troffi i’r enillydd.

Beth am barti?!  

Gallech greu rhestr chwarae anhygoel, rhannu eich caneuon ar Zoom a chael parti gyda theulu a ffrindiau tan yr oriau mân.

Ocsiwn ar-lein

Gofynnwch i deulu, ffrindiau a busnesau lleol roi eitemau i’ch ocsiwn. Yna defnyddiwch feddalwedd arbenigol er mwyn cynnwys llawer iawn o bobl.

Beth am gynnal gig?

Os ydych chi mewn band neu yn gerddor, beth am gynnal gig ar-lein drwy Facebook neu Instagram Live? Gofynnwch am roddion am docyn.

Siopa a chefnogi

Gallech godi arian gwerthfawr ar gyfer gwasanaethau Tŷ Hafan sy’n newid bywydau drwy easyfundraising neu Amazon Smile. Mae pob ceiniog yn cyfri.

Codi cymaint o arian â phosibl  

Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ni yn sicr ddysgu llawer iawn am sut i lwyddo i godi arian yn rhithiol. Dyma’r prif bethau y gwnaethom eu dysgu yr oeddem eisiau eu rhannau â chi.  

1

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol,

fel Facebook, Twitter, Instagram neu Tik Tok, i ledaenu’r wybodaeth am eich menter codi arian rhithiol. 

2

Creu tudalen rhoi ar-lein

ar safleoedd fel JustGiving. Gallwch roi eich stori chi ar eich tudalen gyda lluniau a’r newyddion diweddaraf.

3

Cysylltu â chyfryngau digidol ar-lein,

gan gynnwys papurau newydd lleol i ddweud wrthynt am eich menter codi arian. 

4

Siarad â dylanwadwyr ar-lein

neu ffrindiau sydd â llawer o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnwch iddynt hyrwyddo eich menter codi arian 

Codi arian yn rhithiol

Eich cefnogi chi yr holl ffordd 

Os ydych chi wedi cynnal llawer iawn o fentrau codi arian rhithiol o’r blaen neu os ydych chi’n defnyddio’r we i godi arian i Tŷ Hafan am y tro cyntaf, mae ein tîm o arbenigwyr codi arian yma i’ch helpu chi. 

Gallant ateb eich cwestiynau, rhoi hwb i chi pan fyddwch ei angen, a gwneud codi arian rhithiol yn llawer iawn haws a symlach. 

Cysylltwch â nhw ar supportercare@tyhafan.org neu 02920 532 255. Bydden nhw’n dwlu clywed gennych chi.