Mae Gwirfoddolwyr GE yn gweithredu ar draws y byd gan gynnal amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau elusennol a gweithgareddau cymunedol. Mae gwirfoddoli yn elfen hanfodol o ddiwylliant GE. Fel rhan o’n rhaglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ehangach, mae ein gwirfoddoli’n effeithio ar faterion cymdeithasol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’n busnes craidd a’r gymuned rydym yn gweithredu ynddi. Rydym yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, gan datblygu ein cymunedau, ein haddysg a’n pobl ifanc.
I GE Aerospace Wales, Her 3 Chopa Cymru yw uchafbwynt y calendr gwirfoddoli. Dechreuodd y digwyddiad yn 1998 ac mae bellach yn ei 25ain blwyddyn. Syniad grŵp o weithwyr GE Aerospace oedd yr her, ar ôl iddynt gystadlu yn nigwyddiad her y Tri Chopa Cenedlaethol. Paul Shepherd, oedd yn arwain y grŵp ac ef oedd y sbardun y tu ôl i’r digwyddiad Her Tri Chopa Cymru cyntaf. Ychydig o’r tîm trefnu gwreiddiol sy’n dal i fod yn rhan o’r digwyddiad ond gyda gwirfoddolwyr newydd yn dod i’r tîm bob blwyddyn mae’r digwyddiad yn parhau i fod mor gryf ag erioed. Mae dros 1,600 o weithwyr wedi gwirfoddoli eu hamser i fod yn swyddogion a darparu’r anogaeth hollbwysig honno i gyfranogwyr. Mae GE Aerospace hefyd wedi cofrestru timau bob blwyddyn, gan helpu i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan.
Mae GE Aerospace Wales wedi’i leoli yn Nantgarw, ychydig i’r gogledd o Gaerdydd, Cymru. Mae prosiectau gwirfoddoli diweddar wedi cynnwys adeiladu ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer Ysgol Evan James, ardal chwarae a seddi awyr agored yng nghymuned Waun Wen a mentora mathemateg mewn ysgolion lleol ledled De Cymru.
Yn GE Aerospace Wales mae gennym weledigaeth, ond mae gennym hefyd y cymhelliant, yr ymrwymiad a’r sgiliau i wneud iddo ddigwydd.