Taith Gerdded Goffa Tŷ Hafan

Diolch am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn bellach wedi gwerthu.

Walk to remember

Dyddiad y digwyddiad

14 Medi 2024

Lleoliad

O Benarth i Sili

Ffi mynediad

£5 / £10

Targed nawdd

£100

Cymerwch olwg ar y llwybr cerdded

Beth yw’r ‘Daith Gerdded Goffa’?

Bydd y daith gerdded yn dechrau wrth Bier Penarth o 6am.  Bydd cerddwyr yn cael cyfle i fwynhau’r wawr a mynd am dro heddychlon ar hyd llwybr yr arfordir, gan hefyd godi arian i Tŷ Hafan.

Y ffi gofrestru yw £10, neu £5 ar gyfer pobl ifanc 16-17 mlwydd oed, a gofynnwn eich bod yn codi o leiaf £100 mewn nawdd. Byddwch yn cael pecyn codi arian a chefnogaeth lawn tîm Tŷ Hafan i’ch helpu i gyrraedd eich targed codi arian yn llwyddiannus.

Gyda’ch cofrestriad byddwch yn cael:

pecyn codi arian a chefnogaeth lawn Tîm Tŷ Hafan i’ch helpu i gyrraedd eich targed codi arian,

diod boeth wrth gyrraedd i’ch cychwyn ar eich taith gerdded,

rhôl brecwast poeth haeddiannol ar ôl i chi orffen y daith gerdded yn Nhŷ Hafan,

crys-t technegol Tŷ Hafan pan fyddwch yn codi £100.

Mae eich codi arian yn trawsnewid bywydau. Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 teulu yng Nghymru sydd angen ein cymorth sy’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy gydol bywyd, marwolaeth eu plentyn a thu hwnt. Pan fyddwch yn codi arian ar gyfer Tŷ Hafan, rydych yn mynd â ni gam yn nes at gyrraedd pob teulu yng Nghymru sydd ein hangen, felly nid oes yr un teulu yn wynebu marwolaeth annirnadwy eu plentyn yn unig.

Taith Gerdded Goffa Tŷ Hafan

Cwestiynau Cyffredin

Yr holl wybodaeth angenrheidiol am y Daith Gerdded Goffa

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r daith gerdded tua 6 milltir / 10 cilomedr ar hyd Llwybr Arfordir hardd Cymru rhwng Pier Penarth a Hosbis Plant Tŷ Hafan yn Sili.  Dylai cerddwyr fod yn iach ac yn gallu cerdded y pellter yn gyfforddus, weithiau ar dir anwastad.

Oherwydd bod llwybr yr arfodir yn anwastad mewn mannau, yn anffodus nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

 

Ydy plant yn cael dod ar y daith gerdded?

Gan fod y daith yn hir a’r tir yn heriol dylai’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded fod yn 16 oed neu hŷn. Caiff pobl ifanc o dan 18 oed wneud y daith am ffi gostyngol o £5 y pen a bydd angen iddynt fod gyda rhywun sy’n 18 neu’n hŷn.

A allaf ddod â chi ar y daith gerdded?

Yn anffodus gan fod rhannau cul o’r llwybr i’r grŵp fynd heibio iddynt, a gan y byddwn yn mynd i mewn i dir yr hosbis ar ddiwedd y daith, ni allwn gael cŵn gyda ni y tro hwn.

A fydd diodydd ar gael?

Rydym yn bwriadu dechrau’r daith gyda diod boeth ym Mhenarth. Bydd y daith gerdded yn diwedd yn Hosbis Plant Tŷ Hafan gyda rholyn brecwast poeth haeddiannol iawn.

Codi arian gyda Just Giving

Mae codi arian ar-lein yn ffordd wych o godi arian nawdd. Pan fyddwch yn creu tudalen codi arian ar-lein yn www.justgiving.com chwiliwch am ‘Tŷ Hafan Walk to Remember’ fydd yn cysylltu eich tudalen â’r digwyddiad. Bydd yr arian o Just Giving yn dod i Tŷ Hafan yn awtomatig, felly pan fyddwch wedi creu eich tudalen a’i rhannu gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr, nid oes angen i chi wneud dim bydBaarall.

Taith Gerdded Goffa Tŷ Hafan

Noddir yn garedig gan:

Kindly sponsored by Cabot

Rydyn ni bob amser yma i helpu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at events@tyhafan.org. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.