Rhoi i ddathlu 

Os ydych chi’n dathlu achlysur arbennig fel priodas, pen-blwydd neu ben-blwydd priodas, beth am ddathlu trwy ofyn am roddion i Tŷ Hafan?  

Trwy greu tudalen codi arian a gofyn i deulu a ffrindiau gyfrannu yn hytrach na rhoi anrheg, gallwch wneud rhywbeth cwbl anhygoel fydd yn newid bywydau eleni.  

Rhoi i ddathlu

Priodasau a phartneriaethau sifil  

Os ydych chi’n priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil, mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu i weddnewid bywydau plant sy’n byw bydau byr a’u teuluoedd. 

  1. Prynu rhai o’n rhoddion priodas prydferth a’u rhoi i’r gwesteion ar y diwrnod mawr.
  2. Gofyn am amlenni cyfrannu a blychau casglu ar gyfer eich byrddau a lleoliad eich priodas.
  3. Sefydlu tudalen codi arian a gofyn i deulu a ffrindiau gyfrannu yn hytrach na phrynu anrheg priodas. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am droi eich diwrnod arbennig yn gyfle i godi arian, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm ar 02920 532199 neu supportercare@tyhafan.org 

Dathlu pen-blwydd neu ben-blwydd priodas?

Os ydych chi ar fin dathlu eich pen-blwydd neu ben-blwydd priodas, gallwch droi eich diwrnod arbennig yn rhywbeth cwbl hyfryd i’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi.

1

Gofyn am amlenni cyfrannu a blychau casglu ac annog gwesteion i’w defnyddio yn eich parti. 

2

Creu tudalen codi arian a gofyn i deulu a ffrindiau gyfrannu yn hytrach na phrynu anrheg.

3

Creu tudalen codi arian ar Facebook. Mae’n hawdd iawn a gallwch lawrlwytho ein canllaw defnyddiol ar sut i wneud hynny. 

4

Trefnu digwyddiadau codi arian yn y cyfnod cyn eich dathliad ac ar y diwrnod ei hun. Mae gennym ddigon o syniadau ac adnoddau i’ch ysbrydoli. 

Yma i helpu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am droi eich diwrnod arbennig yn gyfle i godi arian, mae croeso i chi  gysylltu â’n tîm ar 02920 532199 neu supportercare@tyhafan.org 

Gallwn roi llawer o awgrymiadau am godi arian, siarad â chi am adnoddau Tŷ Hafan y gallwch eu defnyddio a rhoi llawer o gefnogaeth i chi pan fydd ei angen. 

Gofyn am roddion gofalu  

Ffordd arall o helpu i wella bywydau’r teuluoedd vr ydym yn eu cefnogi yw trwy ofyn i’ch anwyliaid brynu rhodd gofalu Tŷ Hafan i chi yn anrheg priodas, pen-blwydd neu ben-blwydd priodas. 

Maent yn amrywio o £5 i £500 ac maent yn ddewis gwych os ydych yn dymuno helpu plant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n byrhau bywyd i gael hwyl, cyfathrebu a magu hyder. 

 

I wybod mwy
Rhoi i ddathlu

Sut y gall eich diwrnod arbennig weddnewid bywydau 

 

Gallai £25

dalu am weithiwr cymorth teulu i roi awr o gymorth emosiynol sy’n helpu plentyn i ymdopi’n well â’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Gallai £50

dalu am awr o therapi cerdd sy’n cynnig cymorth emosiynol, cyfle i ymlacio ac anghofio am y cyflwr a modd i blentyn fynegi ei hun.

Gallai £231

dalu am nyrs wedi’i hyfforddi’n arbennig i ofalu am blentyn trwy gydol y nos, gan roi cyfle i rieni gael amser yn rhydd heb fod yn ofalwyr

Gallai £458

dalu am ddeunyddiau celf a chrefft i blant eu defnyddio mewn sesiwn therapi chwarae am flwyddyn gyfan.

Gallai £1,000

dalu am ein gwasanaeth cefnogaeth ffôn 24-awr am fis, gan sicrhau ein bod bob amser yno i deuluoedd mewn angen.

Y rheswm pam y dewisais fathodynnau Tŷ Hafan fel rhoddion yn ein priodas oedd oherwydd bod fy nhad, sydd bellach wedi marw, yn cefnogi Ty Hafan, roedd yn rhoi bob mis i’r elusen ac yna pan fu farw, gwnaethom sefydlu cronfa elusen i roi arian i’r elusen yr oedd wedi ei dewis, sef Tŷ Hafan, felly pan ddechreuon ni drefnu’r briodas roedd hi’n ddewis syml iawn i ni brynu bathodynnau Tŷ Hafan fel rhoddion priodas a rhoi arian ar yr un pryd ????.

- Taran Godfrey

Adnoddau am ddim i chi

Os ydych chi’n chwilio am ffordd o drefnu digwyddiad codi arian fel rhan o’ch achlysur arbennig, yna mae hwn ar eich cyfer chi.  

Rydym wedi creu canllaw codi arian gwych i chi sy’n llawn cyngor da, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian.  Gallwch hefyd archebu posteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall i wneud yn siŵr eich bod yn denu sylw at eich digwyddiad codi arian.

I wybod mwy