Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar ddyddiad cychwyn gyda chi pan fyddwn yn cynnig y rôl i chi ar lafar. Os ydych chi’n ymuno â’n tîm gofal, byddwn yn cwblhau eich gwiriadau cyn cyflogi cyn cytuno ar ddyddiad cychwyn gyda chi. 

Byddwn yn anfon llythyr cynnig atoch yn amlinellu popeth sydd ei angen gennych cyn y gallwch ddechrau gweithio yn Tŷ Hafan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae ein tîm Gwasanaethau Pobl cyfeillgar ar gael ar careers@tyhafan.org neu 029 2053 2304. 

Pan fydd dyddiad cychwyn wedi’i gytuno, byddwn yn anfon contract cyflogaeth atoch.