Mae cyfweliad sy’n seiliedig ar gymhwysedd yn ffordd o werthuso a yw sgiliau a chymwyseddau ymgeisydd yn cyd-fynd â gofynion hanfodol y rôl a amlinellir yn y fanyleb person.
Mae cyfweliadau cymhwysedd yn gweithio ar yr egwyddor mai perfformiad yn y gorffennol yw’r modd gorau o ddarogan ymddygiad yn y dyfodol.
Mae’r cwestiynau wedi eu cynllunio i roi cyfle i chi ddarparu tystiolaeth o’ch sgiliau a’ch profiad, er enghraifft, “Allwch chi roi esiampl o adeg pan… ? “, “Dywedwch wrthym am adeg pan wnaethoch chi…”.
Ffordd dda o strwythuro eich atebion yw defnyddio’r dechneg ganlynol:
Sefyllfa – amlinellu’r sefyllfa’n fyr
Tasg – beth oedd eich amcan/tasg?
Gweithred– beth wnaethoch chi? sut wnaethoch chi hynny?
Canlyniad – beth oedd y canlyniad, yr effaith a beth wnaethoch chi ei ddysgu?