Pan fyddwch yn dechrau yn Tŷ Hafan, bydd gennych gynllun cynefino wedi’i deilwra ar gyfer eich swydd newydd. Bydd hyn yn eich helpu i ymgartrefu yn eich swydd ac yn Tŷ Hafan.
Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiad croeso, lle byddwch yn cwrdd â gweithwyr newydd eraill ac yn clywed gan gynrychiolwyr o wahanol rannau o’r elusen.
Os ydych chi’n ymuno â’n tîm gofal, bydd gennych hefyd gyfnod penodol o statws ychwanegol i nifer gofynnol y staff. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn aelod o’r staff ar unwaith, ac yn hytrach, bydd gennych leoliadau i ddysgu ac ymarfer sgiliau’n ddiogel, yn ogystal â magu hyder.
Byddwch yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y cyfnod hwn gan wahanol fentoriaid, a fydd yn cyfeillio â chi yn wythnosol. Byddwch hefyd yn cael eich asesu o gymharu â chyfres o gymwyseddau sy’n seiliedig ar waith. Bydd hyn yn penderfynu a allwch chi ddechrau rhoi gofal unigol.