Winnie Griffiths a Violet Taylor oedd y merched cyntaf yn eu teuluoedd, y bu disgwyl eiddgar amdanynt – y ddwy yn chwiorydd bach i ddau frawd mawr. Roedd Winnie o Lanelli a Violet o Gaerffili, a aned ychydig fisoedd ar ôl ei gilydd yn 2022, yn cael eu haddoli gan eu rhieni a’u teuluoedd ehangach.
Aeth y ddwy ohonynt yn fwyfwy sâl dros amser a chawsant ddiagnosis o gyflyrau genetig prin. Ddiwedd haf y llynedd, fe wnaethant farw o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd yn Hosbis Tŷ Hafan.
Nawr, mae eu rhieni dewr yn rhannu eu straeon – ac yn siarad am y cyfeillgarwch anhygoel maent wedi’i ddatblygu drwy’r golled fwyaf ingol – i gefnogi apêl ‘Pan ddaw eich byd i stop’ Tŷ Hafan.
Nod yr apêl, sy’n cael ei lansio ddydd Llun (4 Tachwedd), yw codi £75,000 i helpu cynifer o deuluoedd â phosibl gyda’r cymorth y bydd ei angen arnynt unwaith y bydd eu plentyn wedi marw.
Dywedodd Anton, sy’n bobydd ac yn dad i Arthur, Henry a Winnie (yn eu topiau pêl-droed): “Fe wnaethon ni gwrdd am y tro cyntaf mewn ystafell i berthnasau yn yr uned gofal dwys bediatrig mewn ysbyty yng Nghaerdydd. Roedd cymaint o bethau’n debyg rhwng ein teulu ni a theulu James ac Emily, ond doedd hynny ddim yn gysur. Rwy’n cofio meddwl, ‘Gobeithio nad yw’r un peth yn digwydd iddyn nhw ag sy’n digwydd i ni.’”
Dywedodd Emily, sy’n was sifil ac yn fam i Theo, Logan a Violet (yn y llun isod): “Dim cysur yw’r gair iawn. Doedden ni ddim yn falch bod Candice ac Anton yn mynd drwy’r hyn roedden ni’n mynd drwyddo o gwbl. Roedden ni’n meddwl cymaint amdanyn nhw ar y diwrnod y cafodd Winnie ei throsglwyddo i Tŷ Hafan. Roeddwn i mewn trallod llwyr. Doeddwn i ddim eisiau i’r un ohonon ni fod yn y sefyllfa yna.”
“Roedd hi’n beth da gallu siarad ag Anton fel dyn arall,” dywedodd James. “Mae menywod yn siarad mwy beth bynnag. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf unig. Roedd hi’n anodd, roeddwn i’n gofidio llawer, ond doedd i ddim yn gallu dangos hynny. Doedd y ffaith ein bod ni’n mynd drwy’r un pethau ddim yn gysur – ond roedd gallu siarad ag Anton yn gwneud i mi deimlo nad oeddwn i ar fy mhen fy hun.”
Ar ôl wythnosau yn yr uned gofal dwys, cafodd rhieni Winnie y newyddion dinistriol fod gan ei merch fach Glefyd Alexander a bod ei hiechyd yn gwaethygu mor gyflym fel na fyddai ei throsglwyddo i Hosbis Plant Tŷ Hafan yn opsiwn iddynt o bosibl, o fewn oriau.
Cafodd Winnie ei throsglwyddo i Tŷ Hafan ar 6 Gorffennaf 2023 a bu farw ym mreichiau ei mam yn gynnar yn y prynhawn.
“Doeddwn i ddim yn hoffi meddwl am Tŷ Hafan, ond wrth fynd i fyny’r lôn gyda Winnie, roedd hi’n ddiwrnod poeth, roedd y blodau allan ac roedd yna wenyn a phili-palod. Roedd hi’n hudolus. Mae yna ymdeimlad o lonyddwch. Mae popeth yn cael ei godi. Rydych chi’n mynd i fyny a thros y bryn ac mae fel petai chi oddi ar y ddaear. Rydych chi gam agosach at y nefoedd,” meddai Candice.
“Heb y tiwbiau a’r monitorau, roedd Winnie y gorau yr oedd hi wedi bod ers amser hir – y mwyaf rhydd. Fe wnes i hyd yn oed mynd â hi allan yn fy mreichiau am ychydig. Roedd fel petai hi wedi cael y tamaid bach olaf o egni i ddweud hwyl fawr wrth bawb. Mae’r cyfnod byr hwnnw yn meddwl cymaint i ni, y bechgyn a’r holl deulu.
“Y noson yma, fe wnes i aros ar ddihun gyda hi. Roeddwn i’n teimlo’n dda i ddim ac yn ofnus. Ond roedd Kirsty gyda ni drwy’r amser, ac Emma. Roedden nhw’n wych ac, yn y diwedd, fe wnaeth Winnie setlo.
“Wrth i’r haul godi, roedden ni’n eistedd ar silff y ffenestr yn edrych dros y traeth. Roedd hi’n dawel, ond roeddech chi’n gallu clywed sŵn y môr ac roeddwn i’n gwybod ei fod yn rhoi cysur i Winnie, fel yr oedd i ni. Dim ond ni a natur – gwenyn, robin goch, pïod, gwiwerod a chnocell y coed. Roedd ganddyn nhw gyd eu gwaith i’w wneud. Bu farw Winnie yn fy mreichiau yn gynnar y prynhawn yna ac roedd popeth yn brydferth.”
Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, gwnaeth James ac Emily ganfod eu hunain yn yr un sefyllfa hunllefus. Roedd Violet, a oedd wedi cael diagnosis o glefyd genetig prin, TBCK, yn gwaethygu’n gyflym heb unrhyw obaith o wellhad. Cafodd ei symud i Tŷ Hafan ar gyfer gofal diwedd oes ganol mis Awst a bu farw ym mreichiau Emily ar 24 Awst.
“Roedd Violet yn 11 mis oed pan ddaeth i Tŷ Hafan ar gyfer gofal diwedd oes,” meddai Emily. “Roedd y tywydd yn wych. Doedd Violet ddim wedi bod y tu allan ers misoedd am ei bod hi wedi bod yn yr ysbyty, felly roedd gallu mynd â hi allan i’r awyr iach, gyda’r haul ar ei hwyneb a sŵn y tonnau yn atgof gwerthfawr. Dywedodd Violet wrthym yn ei ffordd ei hun mai dyma lle’r oedd hi am fod. Fe wnaethon ni ei chlywed hi’n chwerthin am y tro cyntaf ers misoedd ac roedd hi wastad yn gwenu. Doedd dim mwy o boen, dim mwy o ymladd, dim ond heddwch ac amser gwerthfawr gyda’n gilydd. Does dim geiriau i ddisgrifio’r hyn roedd hynny’n ei olygu i ni.”
Er i Candice ac Emily gadw mewn cysylltiad drwy Facebook, wnaethon nhw ddim gweld ei gilydd eto tan wasanaeth profedigaeth Tŷ Hafan yn yr haf pan ddechreuon nhw’r bennod nesaf o’u cyfeillgarwch anhygoel.
Meddai James: “Ar ôl y gwasanaeth, fe wnaethon ni dreulio oriau yn yr ardd, yn siarad â’n gilydd – am yr hyn roedden ni wedi bod drwyddo, am sut roedden ni’n teimlo ac am ein merched bach.
“Yn ystod bywyd bob dydd, dydy pobl ddim yn deall beth rydych chi wedi bod drwyddo, felly mae angen i chi ddal yn ôl. Felly, pan ges i ac Anton ein sgwrs ar ôl y gwasanaeth profedigaeth, roedd e’n beth braf. Cafodd pwysau ei godi. Roeddwn i’n gallu siarad ag ef am gyhyd ag yr oedd ei angen, roedd e’ fel cael ychydig o therapi, ac roeddwn i’n teimlo’n well wedyn. Ac roedd e’n teimlo’n naturiol hefyd. Doeddwn i ddim yn teimlo’n nerfus. Doeddwn i ddim yn teimlo bod angen i mi ddal yn ôl. Allwn i droi o amgylch a dweud: ‘Sut wyt ti boi? Ti’n iawn? Neu wyt ti’n teimlo’n ofnadwy heddi’? Dwi’n siŵr dy fod di. Ie, dwi’n teimlo fel ‘na hefyd.’ A doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n mynd i wneud iddo deimlo’n wael, neu ei fod e’n lletchwith.
“Mae Tŷ Hafan yn cynnig y lle a’r cyfleoedd i ni ddod ynghyd – dydy ein cyfeillgarwch ni ddim yn fath arferol o gyfeillgarwch lle gallech chi drefnu i gwrdd am goffi neu fynd i’r dafarn. Dydy e’ ddim yn gweithio fel yna i ni. Mae’r hyn y mae Tŷ Hafan yn ei roi i ni mor bwysig a gallwn ni ddim ei gael e’ yn unman arall.”
“Mae angen i bob teulu sy’n wynebu marwolaeth eu plentyn gael yr un cymorth gan Tŷ Hafan ag y cawson ni,” meddai Candice.
“Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan wnaeth hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny,” meddai Emily. “Dyna’r hyn sydd ei angen ar bob rhiant pan maen nhw’n colli eu plentyn ac mae fy nghalon yn torri i wybod nad yw pob teulu mor ffodus.”
Meddai Jenna Lewis, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm yn Hosbis Plant Tŷ Hafan: “Hoffwn i ddiolch i Candice, Anton, Emily a James, a’r holl deuluoedd sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch hon, am eu dewrder yn rhannu straeon eu plant i helpu Tŷ Hafan i godi mwy o arian fel y gallwn ni roi cymorth profedigaeth i hyd yn oed mwy o deuluoedd fel eu rhai nhw.
“Does yr un rhiant byth yn dychmygu y bydd bywyd eu plentyn yn fyr. Yn anffodus, dyma’r realiti sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru ac, ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 o’r teuluoedd hynny y gallwn ni eu helpu. Rydyn ni’n gwybod bod yna filoedd o deuluoedd nad ydyn nhw’n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar ôl i’w plentyn farw.
“Mae ein hapêl Pan Ddaw Eich Byd i Stop yn cael ei lansio heddiw, a’n nod yw codi £75,000 er mwyn i ni allu rhoi cymorth profedigaeth i hyd yn oed mwy o deuluoedd fel rhai Winnie a Violet a sicrhau bod neb yng Nghymru yn gorfod wynebu marwolaeth ei blentyn ar ei ben ei hun.”
Bydd apêl Pan Ddaw Eich Byd i Stop Tŷ Hafan yn rhedeg o ddydd Llun 4 Tachwedd i ddydd Sul 8 Rhagfyr gyda’r nod o godi £75,000 tuag at ei wasanaethau profedigaeth arbenigol.
Yn y llun uchod yng Ngardd Goffa bwrpasol Tŷ Hafan, James ac Emily Taylor, yn dal pebble eu merch Violet, gyda’u ffrindiau Candice Jones ac Anton Griffiths gyda’u pebble er cof am eu merch, Winnie.