Ganwyd Alfi gyda syndrom Marfan newyddanedig, cyflwr prin a oedd yn golygu y byddai ei fywyd yn un byr.

“Ar 1 Mai 2013, daeth Alfi Jay a Besi Jane i’r byd,” meddai Sara.

“Daeth ein bywydau yn berffaith yn yr ychydig eiliadau hynny ac roedd y blynyddoedd o driniaethau IUI ac IVF anodd i gael ein dau wyrth anhygoel werth y cyfan.

“Ond wnaeth yr hapusrwydd ddim para’n hir. O fewn awr i’r adeg pan gyrhaeddodd ein babis annwyl, aeth Alfi yn sâl iawn a chafodd ei frysio i’r uned fabanod. Roedd yr ychydig fisoedd nesaf yn ddryslyd. Roeddem ni’n gwybod nad oedd prognosis Alfi yn dda. Roedd bywyd gyda’r efeilliaid yn werthfawr ac fe wnaethom ni geisio creu cymaint o atgofion ag y gallem.”

Argymhellwyd Tŷ Hafan i Sara a Jason pan oedd Alfi a Besi yn 9 mis oed. Daethon nhw i’n hosbis am eu seibiant byr cyntaf, a’u hunig seibiant byr, ychydig cyn Nadolig 2014, lle’r oedden nhw’n gallu ymlacio fel teulu yn gwybod y byddai’r staff yn gofalu am anghenion meddygol Alfi.

“Yn Tŷ Hafan, cafodd Jason a fi y cyfle i dreulio amser o ansawdd gyda’r efeilliaid,” Cofia Sara.

“Am y tro cyntaf, doedd dim angen i ni osod ein larymau, poeni am feddyginiaeth na phoeni am bacio holl offer meddygol Alfi. Roedd rhywun arall yn gyfrifol am hynny.

Sara, Jason and Besi

“Byddwn ni’n cofio’r penwythnos hwnnw am byth. Fe wnaethon ni chwarae yn y parc, nofio yn y pwll hydrotherapi, mynd i weld Siôn Corn a bwyta cinio Nadolig fel teulu. Gwnaeth Alfi hyd yn oed fentro i ffwrdd ar ei ben ei hun gyda’i nyrs un-i-un ei hun i weld Anna, Elsa, Olaf a Siôn Corn. O’r funud honno ymlaen, daeth Tŷ Hafan yn rhan enfawr o’n bywydau.”

Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei dad ar y cyntaf o Fawrth 2015, Dydd Gŵyl Dewi ac, yn drist iawn, pen-blwydd priodas Sarah a Jason.

“Ers ei farwolaeth, mae Tŷ Hafan wedi bod o gymorth enfawr i ni. Rydyn ni’n dal i gael cefnogaeth gan ein Gweithiwr Cymorth Teulu ac rydyn ni’n gwybod y bydd Tŷ Hafan yno i ni pryd bynnag a sut bynnag y byddwn ni eu hangen nhw,” meddai Sara.

“Rydyn ni’n ymweld â Tŷ Hafan yn rheolaidd. Galla i ddim dechrau disgrifio’r hyn mae Tŷ Hafan yn ei olygu i ni fel teulu, ond un peth rwyf yn ei wybod yw y byddaf yn ddiolchgar am byth am yr atgofion y maen nhw wedi rhoi cyfle i ni eu creu ac rydym ni’n dal i’w creu hyd heddiw.”

 

Cymorth i’r teulu cyfan. Bob amser.

Rydym yn rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol drwy ofal diwedd oes a thu hwnt, cyhyd ag y bydd y teulu ein hangen ni.

Cymorth i frodyr a chwiorydd

Gall brodyr a chwiorydd gael cymorth unigol neu Therapi Chwarae, os oes angen, i’w helpu i ymdopi â galar a thrawma colli brawd neu chwaer. Gallant ymuno â’n grwpiau Supersibs i ddod i gysylltiad â phlant eraill sy’n gallu uniaethu â’u profiadau.

Alfi and Besi wearing Christmas hats

Cymorth i rieni

Rydym yn cynnig cymorth unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys grwpiau cymorth i famau ac i dadau, yn yr hosbis ac yn y gymuned.

Cymorth ymarferol

Rydyn ni’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am rai o’r elfenau ymarferol fel bod teuluoedd yn gallu canolbwyntio ar fod gyda’i gilydd ar yr adegau anoddaf, gan gynnwys cynllunio gofal diwedd oes, cofrestru marwolaeth plentyn a chynllunio’r angladd.

Therapi Cyflenwol

Mae ein tîm Therapi Cyflenwol yn darparu tylino, aromatherapi, adweitheg a mwy i annog ymlacio, lleddfu poen ac yn syml, i roi gwybod bod rhywun yn poeni.

Mae eich rhoddion yn newid bywydau

Mae rhodd i Tŷ Hafan yn helpu teulu drwy’r adeg dywyllaf y gellir ei dychmygu. I roi heddiw, cliciwch yma.