Pan ddaw eich byd i stop.

โ€œRoedd Tลท Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan wnaeth hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny.โ€

Rhowch heddiw

Violet photo frame

โ€œCafodd fy ngลตr James un cwtsh olaf hir gyda hi ac yna fe gefais i un. Bu farw Violet yn dawel wrth i mi ei magu yn fy mreichiau.โ€

Wnewch chi helpu i wneud yn siลตr na fydd yr un teulu yn wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain?

Bob dydd mae miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn byw gyda’r ofn y gallai fod y diwrnod olaf iโ€™w plentyn. Dywedir wrth lawer o deuluoedd am ‘ffarwelio รข’u plentyn’ o leiaf bum gwaith cyn i’r diwrnod y maen nhw wedi bod yn ei ofni yn digwydd mewn gwirionedd.

Ychydig iawn o ddewis sydd ar gael i deuluoedd ynglลทn รข lle bydd eu plentyn yn marw y tu allan i Dลท Hafan. Yn aml, nid yw’r rhai sy’n marw yn yr ysbyty yn cael llawer o gefnogaeth ac maen nhwโ€™n cael eu hanfon adref yn gyflym, heb wybod ble i droi. Mae teuluoedd plant sydd wedi marw yn dweud wrthym eu bod yn aml yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar รดl marwolaeth eu plentyn, gallan nhw ddim dechrau meddwl am gynllunio’r angladd, dydyn nhw ddim yn gwybod sut i alaru a dydyn nhw ddim yn gwybod sut i barhau.

Rhowch heddiw

Yn Nhลท Hafan, rydyn ni’n gwybod nad yw’r daith ar ben pan fydd plentyn yn marw. Byddwn yn cerdded wrth ochr pob teulu wrth iddyn nhw alaru a byddwn yn eu cefnogi cyhyd ag y maen nhw ein hangen ni.

โ€œMae pob un rhiant i blentyn sy’n mynd i farw’n ifanc yn haeddu cael yr hyn gawsom ni. Roedd Tลท Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan wnaeth hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny. Dyna sydd ei angen ar rieni pan fyddan nhw’n colli eu plentyn ac mae fy nghalon yn torri gan wybod nad yw hynny ar gael i bob teulu.โ€

Wnewch chi helpu i wneud yn siลตr nad yw’r un teulu yng Nghymru yn wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain?

Bydd faint bynnag y gallwch chi ei roi yn cael ei ddefnyddio i ariannu ein gwasanaethau hanfodol i deuluoedd y mae eu plant wedi marw.

Rhowch heddiw

Diolch am eich holl roddion hyd yn hyn, rydych chi’n anhygoel!

Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am haelioni anhygoel pawb sydd wedi cyfrannu at ein hapรชl hyd yn hyn! Os nad ydych wedi cael cyfle i roi eto, nawr yw’r amser perffaith i gymryd rhan. Bydd pob cyfraniad, mawr a bach, yn mynd yn uniongyrchol i helpu teuluoedd yng Nghymru trwy fywyd byr eu plentyn, ac yna drwy’r brofedigaeth.

Rhowch heddiw

Diolch am eich holl roddion hyd yn hyn, rydych chi’n anhygoel!

Stori Violet

โ€œMae curiad calon Violet yn arafu. Bydd yn digwydd cyn hir. Rhowch gwtsh iddi nawr.โ€ Dywedodd Adrian, ein Nyrs, wrthym ni. Cafodd fy ngลตr James un cwtsh olaf hir gyda hi ac yna fe gefais i un. Bu farw Violet yn dawel wrth i mi ei magu yn fy mreichiau.

Violet oedd ein trydydd plentyn a’n merch gyntaf. Traโ€™r oeddwn i’n feichiog gyda hi, dangosodd sgan rai annormaleddau ond dywedwyd nad oeddynt yn rhai difrifol, a cheisiais beidio รข phoeni. Pan gafodd ei geni, dywedwyd wrthym ei bod hi’n iawn ac am y mis cyntaf, fe roedd hi.

Roeddwn i’n bryderus drwy’r amser

Wrth iโ€™r amser fynd heibio, teimlais nad oedd hi’n datblygu yn yr un ffordd ag y gwnaeth ei brodyr hลทn. Er gwaethaf nifer o ymweliadau รขโ€™r ysbyty, dywedwyd wrthyf yn barhaus ei bod hi’n iawn a chafodd ei hanfon adref, ond roeddwn i’n gwybod yn fy nghalon fod rhywbeth difrifol o’i le.

Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy ac roeddwn i’n bryderus drwy’r amser. Fyddwn i’n chwilio ar y we tan oriau mรขn y bore, yn ceisio deall beth oedd yn digwydd gyda fy merch fach.

Rhowch heddiw

Y newyddion mwyaf ofnadwy

Wyth mis yn ddiweddarach cawsom y newyddion mwyaf trychinebus. Roedd gan Violet anhwylder genetig prin iawn – syndrom TBCK ac y byddai ei bywyd yn fyr.

Roeddwn i wedi fy syfrdanu. Oedd, roedd hi’n sรขl yn aml, ond roedd hi mor fodlon, ni fyddech yn credu bod unrhyw beth o’i le arni.

Roedd Violet yn caru ei brodyr mawr Theo, 7 oed, a Logan, 5 oed, ac roedden nhw’n dotio arni. Byddai pobl meddygol bob amser yn gwneud sylwadau am y pethnau na allai Violet eu gwneud, ond doedd y bechgyn ddim yn gallu gweld ei salwch – iddyn nhw roedd hi’n berffaith, yn union fel yr oedd hi. Dywedwyd wrthym na fyddai hi byth yn cerdded nac yn siarad, ond doedden nhw ddim yn poeni, Violet oedd hi iddyn nhw.

Rhowch heddiw

Dim mwy o boen, dim ond heddwch ac amser gwerthfawr gyda’n gilydd

Roedd Violet yn 11 mis oed pan ddaethon ni i Tลท Hafan ar gyfer ei gofal diwedd oes. Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty ers misoedd, felly roedd gallu mynd รข hi tu allan yn yr awyr iach, gyda’r haul ar ei hwyneb a synau’r tonnau yn atgof mor werthfawr. Dywedodd Violet wrthym yn ei ffordd ei hun mai dyma lle roedd hi eisiau bod. Fe wnaeth hi bwffian chwerthin am y tro cyntaf ers misoedd ac roedd ei gwรชn yn gyson. Doedd dim mwy o boen, dim mwy o ymladd, dim ond heddwch ac amser gwerthfawr gyda’n gilydd. Does dim geiriau i gyfleu beth mae hynny’n ei olygu i ni.

Roedd Tลท Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan fu farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny. Dyna sydd ei angen ar bob rhiant pan fydd yn colli plentyn ac mae fy nghalon yn torri o wybod nad yw pob teulu yn cael hynny.

Rhowch heddiw

Diolch am eich holl roddion hyd yn hyn, rydych chi’n anhygoel!

Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am haelioni anhygoel pawb sydd wedi cyfrannu at ein hapรชl hyd yn hyn! Os nad ydych wedi cael cyfle i roi eto, nawr yw’r amser perffaith i gymryd rhan. Bydd pob cyfraniad, mawr a bach, yn mynd yn uniongyrchol i helpu teuluoedd yng Nghymru trwy fywyd byr eu plentyn, ac yna drwy’r brofedigaeth.

Rhowch heddiw

Roedd Tลท Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan wnaeth hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny.โ€ Dyna sydd ei angen ar bob rhiant pan fyddan nhw’n colli eu plentyn ac mae fy nghalon yn torri o wybod nad yw hynny ar gael i bob teulu.”

Rhowch heddiw

Clywch gan deuluoedd eraill

Fel rhan o’n hymgyrch, rydym yn falch o rannu straeon o’r galon gan dri teulu anhygoel y mae cefnogaeth Tลท Hafan wedi cael effaith arnynt. Mae pob stori yn fodd pwerus o’n hatgoffa o rรดl hollbwysig eich rhoddion wrth ddarparu gofal a chymorth i deuluoedd fel y rhain.

Stori Fynley

I ddechrau, doeddwn i ddim eisiau mynd yno, roeddem ni’n meddwl mai lle i blant fynd i farw yno ydoedd, ond roeddwn i’n gwbl anghywir. Pan aethom ni i edrych o gwmpas, roeddwn i wedi fy syfrdanu’n fawr. Doedd e ddim yn lle trist na morbid; mae’n lle hyfryd. Yr adegau a gawsom gyda’n gilydd yn Nhลท Hafan oedd y mwyaf gwerthfawr erioed. Rwy’n trysori’r atgofion hynny.

Stori Winnie

Roedd ein profiad yn Nhลท Hafan yn anhygoel. Gadawsom yr hosbis ar รดl i Winnie farw yn teimlo’n ysgafnach, ond roedd ein bywydau wedi troi ar yn รดl a doeddem ni ddim yn gallu dod o hyd i’r llwybr a oedd o’n blaenau. Ond beth bynnag fydd ein llwybr o hyn ymlaen, rydyn ni wedi cael ein cefnogi, ac rydyn ni’n dal i gael ein cefnogi gan Tลท Hafan ar y llwybr hwn.

Stori Zach

Roedd Tลท Hafan yn dawel ac yn heddychlon, felly dyna lle y gwnaeth Zach dreulio ei ddyddiau olaf. Roedd yn รดl mewn amgylchedd heddyvhlon heb yr holl archwiliadau, profion a nodwyddau. Cafodd gyfle i ymlacio.

Diolch am eich holl roddion hyd yn hyn, rydych chi’n anhygoel!

Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am haelioni anhygoel pawb sydd wedi cyfrannu at ein hapรชl hyd yn hyn! Os nad ydych wedi cael cyfle i roi eto, nawr yw’r amser perffaith i gymryd rhan. Bydd pob cyfraniad, mawr a bach, yn mynd yn uniongyrchol i helpu teuluoedd yng Nghymru trwy fywyd byr eu plentyn, ac yna drwy’r brofedigaeth.

Rhowch heddiw