Oes gennych gwestiwn?
Rydym wedi ateb llawer o gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn aml am gynnwys rhodd mewn ewyllys.
Dysgu mwy
Drwy gynnwys rhoddion gwerthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod llawer mwy o deuluoedd yn elwa ar ein gwasanaethau sy’n newid bywydau ymhell i’r dyfodol.
Eisoes, mae rhoddion mewn ewyllysiau yn gwbl hanfodol i’n gwasanaethau. Maen nhw’n ariannu 25% o’r gofal rydym yn ei ddarparu i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau.
Ond wrth edrych i’r dyfodol, mae’r rhoddion arbennig hyn yn mynd i ddod yn fwy hanfodol byth i ni a’r teuluoedd rydym yn eu helpu. Mae hynny oherwydd datblygiadau mewn triniaeth a gofal, rydym yn disgwyl i fwy o blant sy’n cael eu geni â chyflwr sy’n byrhau bywyd, neu sy’n datblygu cyflwr o’r fath, fyw’n hirach a bod angen ein cefnogaeth arbenigol.
Felly, ystyriwch gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan. Mae wir yn ffordd werth chweil o gefnogi plant a theuluoedd yn ein hosbis, 10, 20, hyd yn oed 50 mlynedd o nawr.
Cyfle i weld sut mae rhoddion mewn ewyllysiau yn helpu Tŷ Hafan i fod yn achubiaeth i deuluoedd fel un Ollie, a sicrhau eu bod nhw’n mwynhau adegau amhrisiadwy gyda’i gilydd.
Gallwch weld pa mor syml yw cynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan gyda’n canllaw hawdd ei ddilyn. Mae’n sôn am dreth etifeddiaeth a’r mathau o roddion y gallwch eu rhoi.
Gallwch gwrdd wyneb yn wyneb â chyfreithiwr drwy ein partneriaeth gyda’r National Free Wills Network neu greu ewyllys ar-lein gyda chefnogaeth Farewill.
Dechreuwch ddarllen ein canllaw hawdd ei ddilyn heddiw. Mae’n llawn cyngor ac arweiniad defnyddiol.
Rydym wedi ateb llawer o gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn aml am gynnwys rhodd mewn ewyllys.
Dysgu mwy
dalu am 120 sesiwn o therapi cerdd, gan helpu plant i gael hwyl, ymlacio a mynegi eu hunain.
dalu am ddiwrnod cyfan o ofal meddygol a chymorth arbenigol yn ein hosbis i sawl teulu.
dalu am flwyddyn o gwnsela profedigaeth yn ein hosbis i deulu sy’n colli plentyn.
dalu am nyrs Tŷ Hafan i ddarparu gofal lliniarol pediatrig arbenigol i deulu am flwyddyn.
Os oes gennych gwestiwn yr hoffech gael ateb iddo, eisiau gwybod mwy am ein cynnig ysgrifennu ewyllys am ddim, neu os hoffech dderbyn copi caled o’n canllaw rhoddion mewn ewyllysiau am ddim, cysylltwch â ni.
Gallwch gysylltu ag Abbie Barton, yr uwch swyddog codi arian drwy rodd mewn ewyllysiau ac er cof, ar abbie.barton@tyhafan.org neu 02920 532 255.