Y ffordd gywir o roi eitemau a sut i newid rhagor o
Rydym yn ddiolchgar iawn bod cynifer o bobl yn cefnogi Tŷ Hafan drwy roi eitemau i’n siopau, ond mae rhai eitemau na allwn eu gwerthu na’u hailgylchu.
Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau isod cyn rhoi, gan ei bod yn costio arian hanfodol i ni gael gwared ar eitemau na allwn eu gwerthu.
Chwiliwch am yr eitemau rydych chi am eu rhoi
Ewch i’n tudalen Rhoi eich eitemau ail-law a dewch o hyd i’r eitemau rydych yn awyddus i’w rhoi.
Darllenwch ein Canllawiau
Darllenwch ein canllawiau am yr hyn y gallwn ei dderbyn a’r hyn na allwn ei dderbyn, yn ogystal â’r eitemau y gallwn eu hailgylchu i godi arian ar gyfer ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.
Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau gorau
Darllenwch a dilynwch ein hawgrymiadau defnyddiol cyn rhoi. Bydd hyn yn ein helpu i brosesu a gwerthu eich eitemau’n gyflymach, gan arbed amser ac arian gwerthfawr i ni.
Lleolwch eich siop leol
Defnyddiwch yr adnodd chwilio uchod i ddod o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf a’i hamserau agor. Mae gennym nifer o siopau ar draws De a Gorllewin Cymru, i gyd yn frith o amrywiaeth eang o eitemau o safon
Cysylltwch
Ffoniwch eich siop Tŷ Hafan leol er mwyn sicrhau ei bod yn derbyn rhoddion ar hyn o bryd. Dim ond ychydig o le sydd gennym yn ein siopau, sy’n golygu weithiau bod yn rhaid i ni roi’r gorau i dderbyn eitemau am gyfnod byr.
Ymweld â’ch siop leol
Ewch i’ch siop Tŷ Hafan leol, cwrdd â’n staff a’n gwirfoddolwyr cyfeillgar, a rhowch eich eitemau.
Peidiwch ag anghofio Gift aid
Os ydych yn drethdalwr yn y DU, cofiwch y gallwch ddefnyddio Cymorth Rhodd i roi hwb enfawr o 25% i werth eich rhodd. , holwch am Gymorth Rhodd yn eich siop Tŷ Hafan leol, neu dangoswch eich cerdyn rhoddwr Cymorth Rhodd os ydych eisoes wedi cofrestru.
Teimlo’n falch
Eisteddwch yn ôl a theimlwch yn falch eich bod wedi gwneud rhywbeth gwych i gefnogi plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ac i amddiffyn ein planed.