I lawer, mae’r Nadolig yn golygu amser gwerthfawr gydag anwyliaid ac eiliadau hudolus. Ond i rai teuluoedd, gall yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd amlygu teimladau o golled. Gyda’ch cymorth chi gallwn wneud yn siŵr nad oes rhaid i deuluoedd wynebu’r Nadolig yn unig.
Rydym wedi lansio ein hapêl codi arian Nadoligaidd fwyaf erioed, Pan ddaw Eich Byd ar Stop i godi’r arian hanfodol sydd ei angen arnom ar gyfer ein nyrsys a’n gwasanaethau arbenigol.
Cododd ein hapêl frys 60 awr dros £500,000, diolch yn fawr iawn i bawb a lwyddodd i gyfrannu yn ystod y cyfnod hwn. Nid yw rhoddion i’r ymgyrch hon bellach yn cael eu paru, ond bydd pob ceiniog o’ch rhodd yn cefnogi mwy o blant a theuluoedd fel Alfi, Besi, Sara a Jason.
Rhoi NawrMeddai Sara.
Gallem ni ddim dychmygu ein bywydau heb Tŷ Hafan erbyn hyn. Dydy e’ ddim yn teimlo fel hosbis.
“Mae’r gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i ni wedi bod yn anhygoel. Roedd adegau pan gafodd Alfi ei ruthro i’r ysbyty ac roedd staff Tŷ Hafan yno yn barod yn aros amdanom ni, yn sicrhau bod gennym ni wely a phopeth yr oedd ei angen arnom. Nhw oedd ein hachubiaeth.
Roeddem ni’n byw gyda’r realiti y gallai pob Nadolig gydag Alfi fod ein un olaf ni.
“Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei dad ar Fawrth y cyntaf, Dydd Gŵyl Dewi a’n pen-blwydd priodas ni. Bob blwyddyn ar Fawrth y cyntaf, rydyn ni’n mynd i Tŷ Hafan. Dyna ein lle diogel ni.
Hyd yn oed 8 mlynedd ers marwolaeth Alfi, mae’n dal i fod yn gartref oddi cartref i ni. “Yn Tŷ Hafan, does dim rhaid i chi geisio ymddangos yn ddewr. Does dim rhaid i chi esgus bod popeth yn iawn, oherwydd mae pob teulu yno yn deall sut rydych chi’n teimlo.
“Does dim un diwrnod yn mynd heibio pan nad ydyn ni’n meddwl am Alfi. Pan fyddwn ni’n gweld y lleuad, rydyn ni i gyd yn meddwl am Alfi achos fe yw ein bachgen bach ni yn y lleuad – dyna beth oedden ni’n arfer dweud wrth Besi – felly mae e wastad gyda ni.
Un stori yn unig yw hon am deulu sydd wedi derbyn cefnogaeth diwedd oes drwy Tŷ Hafan. Drwy ddod yn hyrwyddwr apêl, gallwch sicrhau y gallwn ni fod yno i bob teulu sydd angen ein cefnogaeth.
Rhoi Nawr