Dewch o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf

Os ydych chi’n awyddus i gael trysor ail-law i chi eich hun neu i roi rhai eitemau, rhowch eich cod post yn ein hadnodd chwilio.

Yna, byddwn yn rhoi gwybod i chi ble mae’r siop Tŷ Hafan agosaf a’i hamserau agor.

Dewch o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf
Loading...
Number Of Shops: 0 PRINT

Store Direction

GET DIRECTIONS

Use my location to find the closest Service Provider near me

Description

Dewch o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf

Y ffordd gywir o roi eitemau a sut i newid rhagor o fywydau

 

Rydym yn ddiolchgar iawn bod cynifer o bobl yn cefnogi Tŷ Hafan drwy roi eitemau i’n siopau, ond mae rhai eitemau na allwn eu gwerthu na’u hailgylchu.   

Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau isod cyn rhoi, gan ei bod yn costio arian hanfodol i ni gael gwared ar eitemau na allwn eu gwerthu. 

 

Chwiliwch am yr eitemau rydych chi am eu rhoi

Ewch i’n tudalen Rhoi eich eitemau ail-law a dewch o hyd i’r eitemau rydych yn awyddus i’w rhoi.  

Darllenwch ein Canllawiau

Darllenwch ein canllawiau am yr hyn y gallwn ei dderbyn a’r hyn na allwn ei dderbyn, yn ogystal â’r eitemau y gallwn eu hailgylchu i godi arian ar gyfer ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.  

Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau gorau

Darllenwch a dilynwch ein hawgrymiadau defnyddiol cyn rhoi. Bydd hyn yn ein helpu i brosesu a gwerthu eich eitemau’n gyflymach, gan arbed amser ac arian gwerthfawr i ni.   

Lleolwch eich siop leol

Defnyddiwch yr adnodd chwilio uchod i ddod o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf a’i hamserau agor. Mae gennym nifer o siopau ar draws De a Gorllewin Cymru, i gyd yn frith o amrywiaeth eang o eitemau o safon  

Cysylltwch

Ffoniwch eich siop Tŷ Hafan leol er mwyn sicrhau ei bod yn derbyn rhoddion ar hyn o bryd. Dim ond ychydig o le sydd gennym yn ein siopau, sy’n golygu weithiau bod yn rhaid i ni roi’r gorau i dderbyn eitemau am gyfnod byr. 

Ymweld â’ch siop leol

Ewch i’ch siop Tŷ Hafan leol, cwrdd â’n staff a’n gwirfoddolwyr cyfeillgar, a rhowch eich eitemau.

Peidiwch ag anghofio Gift aid

Os ydych yn drethdalwr yn y DU, cofiwch y gallwch ddefnyddio Cymorth Rhodd i roi hwb enfawr o 25% i werth eich rhodd. Cofrestrwch ar-lein nawr, holwch am Gymorth Rhodd yn eich siop Tŷ Hafan leol, neu dangoswch eich cerdyn rhoddwr Cymorth Rhodd os ydych eisoes wedi cofrestru.

Teimlo’n falch

Eisteddwch yn ôl a theimlwch yn falch eich bod wedi gwneud rhywbeth gwych i gefnogi plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ac i amddiffyn ein planed.

donate-preloved-items

Rhowch eich eitemau ail-law

Mae angen eitemau o ansawdd da arnom bob amser, ac yn enwedig dillad i ddynion a menywod. Felly, dysgwch sut y gallwch roi a helpu i gefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.   

find-your-nearest-ty-hafan-shop

Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Prynwch eitemau a grëwyd â chariad, neu ymunwch â’n gwirfoddolwyr i greu cynnyrch newydd i godi arian 

find-your-nearest-ty-hafan-shop

Rhoddion gofalu

Rhowch rodd ysbrydoledig sy’n helpu’r plant rydym yn eu cefnogi i gael hwyl a chyfathrebu.