Heddiw yw diwrnod cyntaf Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy ac mae’r siopau elusen sy’n cael eu rhedeg gan Hosbis Plant Tŷ Hafan yn gobeithio am gyfnod masnachu prysur arall.

Lleolir 18 siop yr elusen ar draws gorllewin, de a dwyrain Cymru ac mae incwm a gynhyrchir gan werthiannau yn cyfrif am bron i un rhan o bump o gyfanswm yr incwm sydd ei angen i redeg hosbis a gwasanaethau Tŷ Hafan.

Dywedodd Laura James, Pennaeth Manwerthu Tŷ Hafan: “Mae’n costio £5.6m y flwyddyn – sy’n cyfateb i £15,275 bob dydd – i Dŷ Hafan ddarparu gofal a chymorth i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru.

“Felly mae pob eitem o ansawdd da rydych chi’n ei rhoi i un o’n siopau, pob eitem rydych chi’n ei phrynu o un o’n siopau, neu oddi wrthym ni ar-lein, wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r plant rydyn ni’n eu cefnogi.”

Yn ystod y 12 mis diwethaf:

  • Rhoddwyd tua 1,900 o fagiau o nwyddau bob wythnos i siopau elusen Tŷ Hafan. Mae hyn yn cyfateb i bron i 100,000 o fagiau o eitemau dieisiau (dillad a nwyddau eraill) trwy gydol y flwyddyn a allent fod wedi mynd i safleoedd tirlenwi fel arall
  • Gwerthodd siopau Tŷ Hafan dros 240,000 o eitemau o ddillad ail-law, 20,000 pâr o esgidiau bron fel newydd a dros 15,000 o fagiau llaw ail-law
  • Ailgylchwyd 120,000kg arall o decstilau, esgidiau a bagiau a roddwyd gan nad oeddent yn ddigon da i’w hailwerthu, mewn modd cyfrifol trwy siopau Tŷ Hafan
  • Drwy ailwerthu ac ailgylchu mae Tŷ Hafan wedi arbed tua 220,000kg o ddillad rhag mynd i safleoedd tirlenwi

I gael rhagor o wybodaeth am siopa am nwyddau a rhoi nwyddau i siopau Tŷ Hafan ewch i: https://www.tyhafan.org/cy/dewch-o-hyd-ir-siop-ty-hafan-agosaf/