Bedair wythnos yn ôl, hysbyswyd Tŷ Hafan yn ffurfiol bod cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer y tir yn union rhwng ein hosbis ni a Beechwood College.
Er bod perchennog y safle yn dal i frolio ar ei gyfryngau cymdeithasol am ei gynlluniau ar gyfer parc gwyliau, nid yw’r cais sydd â’r cyfeirnod 2023/00708/FUL (hyd yn hyn) ar gyfer parc gwyliau, ond ar gyfer ardal 0.95 hectar o’r safle i’w ddefnyddio fel storfa ar gyfer 308 o gynwysyddion.
Ar ôl derbyn cyngor gan ymgynghorwyr cynllunio ac arbenigwyr eraill, mae Tŷ Hafan wedi gwrthwynebu’r cais cynllunio hwn yn ffurfiol ar sawl sail.
Rydym yn disgwyl i ‘gynlluniau’ perchennog y tir ar gyfer gwersyll gwyliau barhau i esblygu, fel y nodir gan ei adroddiadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly, hoffem roi sicrwydd, i bawb sydd wedi mynegi pryder, y bydd Tŷ Hafan yn gwrthwynebu datblygiad unrhyw barc gwyliau, neu amwynderau o’r fath, ar y tir yn union drws nesaf. Mae hyn oherwydd y tarfu anochel ar dawelwch safle ein hosbis, lle mae llawer o blant a theuluoedd yn wynebu colled na ellir ei dychmygu, neu yn dod i delerau â cholled o’r fath.
Ar ben hynny, byddwn yn parhau i wrthwynebu unrhyw gynlluniau o’r fath, a hynny er budd y plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a’u teuluoedd, sy’n dod o bob cwr o Gymru i ddefnyddio ein cyfleusterau ac i gael y gofal a’r cymorth unigryw yr ydym yn ei ddarparu bob awr o’r dydd a’r nos.
Rydym yn pwysleisio eto bod diogelwch, preifatrwydd a llonyddwch ein hosbis a’i gardd goffa a’i gardd synhwyraidd o’r pwys mwyaf i ni, yn ogystal ag i’r rhai y mae gennym y fraint o ofalu amdanynt. Mae hefyd yn bwysig i’n miloedd o gefnogwyr gwych ledled Cymru, a thu hwnt, na allem wneud yr hyn a wnawn hebddynt.
Yn syml iawn, ein barn ni yw nad yw adeiladu parc gwyliau i wasanaethu’r Barri, rhwng hosbis plant o Sili a choleg preswyl i bobl ifanc ag anghenion cymhleth yn opsiwn.
Cliciwch yma i weld manylion llawn y cais cynllunio.
Os hoffech wneud sylwadau ar y cais cynllunio hwn, cliciwch yma i fynegi eich barn erbyn diwedd y diwrnod gwaith yfory (dydd Mercher 13 Medi). Os na allwch wneud hynny cyn y dyddiad/amser cau hwn, yna nodwch sylw o hyd oherwydd dylai pob sylw gael ei ystyried.