Te i Tŷ Hafan 

Dathlwch goroni’r Brenin mewn te-parti Tŷ Hafan! 

Dyma’ch gwahoddiad gwresog… i gynnal te-parti i ddathlu’r coroni rhwng 29 Ebrill a 13 Mai a chefnogi Tŷ Hafan! 

Dywedwch wrthym am eich te-parti
Te i Tŷ Hafan

Te i Tŷ Hafan 

Cynnal te-parti Tŷ Hafan Y byd yw eich tebot wrth gymryd rhan yn Te i Tŷ Hafan y gwanwyn hwn!

Gall eich te-parti fod mor odidog neu dawel ag yr hoffech a bydd unrhyw swm y byddwch yn ei godi – dim ots pa mor fawr neu fach – yn mynd yn syth tuag at gefnogi plant yng Nghymru â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.

Chi sy’n dewis lle y byddwch yn cynnal y te-parti hefyd. Dyma rai syniadau rydym yn dwlu arnyn nhw:

  • Eich cartref neu ardd
  • Eich stryd
  • Eich neuadd bentref leol
  • Eich ysgol, coleg neu brifysgol
  • Eich gweithle.

Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn anfon pecyn te-parti atoch drwy’r post gyda llawer o addurniadau Tŷ Hafan i chi a’ch gwesteion.

Os na allwch gynnal eich te-parti rhwng 29 Ebrill a 13 Mai, dim problem! Rhowch wybod i ni pryd hoffech chi gynnal eich te-parti a byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennych bopeth i wneud eich parti’n llwyddiant.

Cofrestrwch isod 

Gan fod cyn Dywysog Cymru yn Noddwr i ni, ni allai fod ffordd well o gynnig llwnc destun i’r Brenin newydd a chefnogi Tŷ Hafan mewn un achlysur bendigedig.

I gofrestru, llenwch y ffurflen isod neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org

Bydd y Tîm Gofal Cefnogwyr wrth law bob cam o’r ffordd i’ch helpu gydag awgrymiadau codi arian, deunyddiau cyhoeddusrwydd, Rhodd Cymorth a mwy.

Dywedwch wrthym am eich te-parti

 

    Your details

    First name
    Last name
    Address 1
    Address 2
    Town/City
    Postcode
    Email address
    Phone number
    If you are taking part as a business, group or school please add the name or your business, group or school below:
    What motivated you to sign up for this event?

    How did you hear about this event?

    Your event

    When do you plan to hold your event?
    Where do you plan to hold your event?
    We'd love to keep you informed of how your support is making a difference to Welsh children and other ways you can help.

    Please let us know how you would like to hear from us and we'll ensure that you get as much or as little as you want You can change your mind at any time by emailing supportercare@tyhafan.org We value your support and respect your privacy. We will never sell or share your details and promise to keep them safe. ‘We’ includes Tŷ Hafan and our subsidiary Crackerjackpot. For further details on how your data is used and stored, visit https://www.tyhafan.org.uk/privacy-policy

    Please select your preferences below:









    -----------------------------------------------------------------------



    Pam mae eich cymorth mor bwysig

    £5.2

    miliwn

    Bob blwyddyn mae angen i ni godi tua £5.2 miliwn i gynnal ein hosbis o’r radd flaenaf yng Nghymru a darparu gwasanaethau cymunedol sy’n newid bywydau.

    1,200

    o blant yn cael eu cefnogi

    Ers 1999, rydym yn falch o fod wedi cefnogi bron i 1,200 o blant. Fodd bynnag, ffracsiwn yn unig yw hyn o’r plant y mae angen ein cymorth arnyn nhw.

    £50

    i fynd yn bell

    Os byddwch yn codi £50, mae hynny’n ddigon i dalu am awr o therapi cerdd i blentyn. Amser pan fo modd creu atgofion am oes.

    Sut i dalu’r arian y byddwch chi’n ei godi

    Ar ôl eich te-parti, mae’n amser anfon yr arian rydych wedi’i godi atom a’i ddefnyddio. Mae modd i chi wneud hyn yn gyflym ac yn ddiogel mewn sawl ffordd.

    Talu’r arian rydych wedi’i godi