Mae Gethin Channon yn dair a hanner oed ac yn fab annwyl i Siân a Rob, ac yn frawd bach i Ffion, wyth oed.
Mae’r teulu’n byw yn Abertawe ac wedi bod yn defnyddio hosbis plant Tŷ Hafan ers tair blynedd ar ôl genedigaeth drawmatig a adawodd Gethin heb ddigon o ocsigen.
“Roedd beichiogrwydd Siân yn iawn,” meddai Rob, “ond roedd genedigaeth Gethin yn anodd a gwnaeth ddioddef encapalopathi isgemig hypocsig gradd 3. Cafodd ei eni’n llipa ac roedd y meddygon ar fin camu i ffwrdd oddi wrtho pan gymerodd anadl ar ei ben ei hun yn sydyn.”
Treuliodd Gethin fis yn yr Uned Gofal Dwys Newydd-anedig.
“Ar y dechrau dywedwyd wrthym am feddwl am gynnal bywyd,” meddai Rob, sy’n beiriannydd meddalwedd ar gyfer cwmni cyfreithiol yn Llundain.
“Dywedwyd wrthym ei bod yn annhebygol y byddai Gethin yn goroesi’r wythnos, ei fod yn annhebygol o allu mynd adref byth. Roedd y cyfan yn newyddion drwg.
“Am bythefnos doedden ni ddim yn meddwl bod unrhyw fywyd ynddo. Yna fe wnaeth Therapydd Galwedigaethol fy nghael i siarad â Gethin o ochr arall y gwely a throdd ei ben i glywed fi’n well ar ei ben ei hun.”
Meddai Siân: “Cerddais i mewn ac roedd Rob mor gyffrous. Dyma’r tro cyntaf i Gethin ddangos ei fod wedi adnabod llais Rob, gwnaeth yr un peth i mi wedyn, roedd yn foment anhygoel o emosiynol. Pan ddechreuodd Ffion ganu ‘You Are My Sunshine’ iddo ar ei hymweliad ar ôl pythefnos, dyna ni. Roedden ni’n gallu gweld ei fod yn ei hadnabod – roedd e’n gwybod. Roedd hi wedi ei alw fe’n Buzz pan oedd yn fy mol ac yn canu bob dydd iddo.”
“Yn sydyn wedyn, cawsom wybod ‘iawn, gallwch baratoi i fynd adref’,” meddai Rob.
“Wrth edrych yn ôl, dwi’n meddwl ein bod ni mewn sioc am y rhan fwyaf o’r amser, ac wrth gwrs, roedd Ffion yn dioddef hefyd. Ond roedden ni eisiau cael ein dyn bach adref a gweld sut oedd bywyd yn mynd i fod.”
“Er ein bod ni eisiau Gethin adref yn fwy na dim, y realiti oedd bod hynny yn ein gwneud yn hollol flinedig,” meddai Siân.
“Mae Gethin angen gofal 24/7 – roedd perygl y byddai’n tagu i farwolaeth yn ei got, nid yw’n gallu llyncu, mae angen sugno rheolaidd, bwydo yn ystod y nos a meddyginiaeth i’w rhoi yn y nos. Rob oedd yn gofalu yn y nos. Roeddwn i’n gofalu amdano yn ystod y dydd. Wnaethon ni ddim stopio.”
Cyflwynodd ymgynghorydd meddygol Gethin Tŷ Hafan i ni a gofal lliniarol.
“Roedden ni’n meddwl, o na! Hosbis?! Ydy hyn yn golygu ei fod yn mynd i farw?” meddai Rob. “Ond eglurwyd i ni’r math o gefnogaeth mae Tŷ Hafan yn ei gynnig a’i fod yn lle llawen. Fe wnaethon ni fentro ac ymweld. Ni allem gredu egni’r staff a’r hosbis. Roedd yn gwneud i ni deimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan ohono.”
Ymweliad cyntaf y teulu Channon â’r hosbis oedd pan oedd Gethin yn dri mis oed.
“Roedd e braidd yn swnllyd,” cofia Rob. “Aethon ni i nofio yn y pwll hydro am y tro cyntaf ac roedd hi’n hyfryd ei weld yn ymlacio ac arnofio. Mae wedi bod yn dipyn o bysgodyn ers hynny. Roedd pawb yn dotio ato. Roedd pawb yn ymladd drosto fe a merch fach gafodd ei geni ar yr un pryd – oedd yn mynd ato i gael y cwtsh! Fe wnaethon ni dreulio’r rhan fwyaf o’n dyddiau gyda Gethin ond mewn gwirionedd dyma’r gorffwys go iawn cyntaf i ni i gyd ei gael ers iddo gael ei eni.”
Dechreuodd y teulu ymweld â Tŷ Hafan yn rheolaidd ac ers mis Mawrth 2021, mae Tŷ Hafan wedi dod hyd yn oed yn fwy canolog i’w bywydau. Mewn gwirionedd, maen nhw’n dweud na fydden nhw’n ‘gallu ymdopi heb gefnogaeth yr hosbis.’
Mae Rob yn esbonio. “Ers mis Mawrth 2021 mae Siân wedi bod yn ymladd canser y fron. Rwy’n gwybod, heb Tŷ Hafan, na fyddem yma fwyach, na fyddem yn gallu ymdopi. Mae mor syml ac mor sylfaenol â hynny.”
Ers diagnosis Siân mae Tŷ Hafan wedi cefnogi’r teulu gydag arosiadau tridiau o hyd i Gethin bob mis. Hefyd, mae Ffion yn elwa o therapi chwarae arbenigol i’w helpu i ddelio â’i phryderon am iechyd nid yn unig ei brawd bach ond hefyd ei mam.
“Mae Ffion wedi gorfod ymdopi â chymaint o oedran mor ifanc” meddai Rob. “Ond hi yw cefnogwr mwyaf Gethin.”
Mae Ffion hefyd yn elwa o therapi cerdd yn Tŷ Hafan ac wrth ei bodd yn ymuno yn y sesiynau SuperSibs misol ar gyfer brodyr a chwiorydd plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd. Mae’r ddau blentyn hefyd wedi mwynhau therapi cerdd, a chymryd rhan yn y canolfannau cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan y tîm therapi chwarae.
“Mae Ffion wrth ei bodd gyda Kelly-Jo a’r holl blant eraill yn y grŵp,” meddai Siân. “Mae hi’n gallu mynd i’r hosbis a mynd yn wallgof. Bod yn blentyn. Mae’n wych iddi hi, mae hi wrth ei bodd ac yn gwneud mor dda.”
“Ac o ran Gethin,” meddai Rob, “mae’n ddoniol, yn ddeallus, yn ddireidus, yn awyddus, penderfynol, hyfryd! Mae’n ddi-eiriau ond er hynny mae’n cyfathrebu llawer. Mae ein mab yn fachgen bach deallus tu hwnt gyda phersonoliaeth fawr ac mae eisiau chwarae fel unrhyw blentyn tair oed arall. Mae eisiau chwarae gyda cheir yn taro i mewn i’w gilydd. Mae eisiau ei fersiwn ei hun o chwarae egniol.
“Mae gan Gethin chwerthiniad o’r bol ac mae wrth ei fodd yn dwyn fy sbectol!” meddai Siân. “Mae ganddo hefyd ffrâm sefyll ac mae’n hapus iawn i fynd ar ôl ei chwaer i fyny’r stryd neu ei chael hi i’w wthio yn ei hesgidiau rholio. Mae’n fachgen bach penderfynol iawn ac mae ganddo lawer o botensial. Mae’n ymdrechu bob dydd i brofi’r holl ragolygon cynnar hynny yn anghywir. Ni allem fod yn fwy balch o’n plant ac rydym yn rhyfeddu atyn nhw, ac ni allen fod yn fwy diolchgar i Tŷ Hafan am y gefnogaeth barhaus.”