Mae ymgyrch codi arian Tŷ Hafan a gododd dros £344,000 i’r elusen yr hydref diwethaf wedi ennill tair gwobr gyfathrebu o bwys.

Roedd ein hymgyrch codi arian ‘When Your World Stops’ yn hydref 2022, a gynhaliwyd ar y cyd â’r asiantaeth marchnata a chyfathrebu o Gaerdydd, Cowshed, yn canolbwyntio ar y gefnogaeth a roddodd ein helusen i’r teulu Jeans o dderbyn diagnosis dinistriol o ganser na ellir ei drin tan farwolaeth Rose Jeans ddeuddydd ar ôl ei phen-blwydd cyntaf.

Y targed oedd codi £250,000 i gefnogi ein gwaith gyda phlant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru. Llwyddodd yr ymgyrch i godi llawer mwy na hynny, sef cyfanswm terfynol o £344,649.

Ar ddydd Iau 22 Mehefin enillodd yr ymgyrch Wobr Elusen / Nid-er-elw Dare Cymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu 2023 (PRCA).

Dilynwyd hyn gan ddwy wobr genedlaethol arall yn y DU – Gwobr Nid-er-elw Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) 2023, a Gwobr Defnydd Gorau o Gynnwys CIPR a gyhoeddwyd mewn seremoni yn Llundain ddydd Mercher 28 Mehefin.

Dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: “Rwyf wrth fy modd bod ein hymgyrch codi arian ‘When Your World Stops’ wedi cael y lefel hon o gydnabyddiaeth, yn enwedig o ystyried ansawdd ceisiadau’r rhai eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol Nid-er-elw Gwobrau PRCA Cymru a CIPR.

“Yn gyntaf, rwy’n hynod ddiolchgar i Andrew, Catherine ac Oliver am rannu stori eu babi annwyl Rose, y gwnaethon nhw ei hanrhydeddu mor hyfryd trwy rannu’r stori hon a chodi proffil y gwaith rydym yn ei wneud. Mae hyn yn golygu y gallwn ni barhau i gefnogi plant eraill sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a’u teuluoedd, nawr ac yn y dyfodol.

“Rwy’n gwybod pa mor feddylgar oedd fy nghydweithwyr drwy gydol yr ymgyrch hon, gan roi gofal twymgalon i’r teulu Jeans ar bob cam o’r broses hon. O adrodd stori’r teulu yn sensitif ar ffilm i’w cefnogi gyda chyfweliadau yn y cyfryngau, i ofal ar ôl digwyddiad, gweithiodd ein tîm yn agos gyda’r teulu i sicrhau eu bod yn gyfforddus ac yn cael eu cefnogi bob amser. Hefyd, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r tîm yn Cowshed am eu tosturi, eu harbenigedd a’u hegni wrth gynllunio a gweithredu’r ymgyrch hon, gan ategu ac ymestyn ein galluoedd mewnol.

“Yn olaf, rwy’n hynod ddiolchgar i bawb a gefnogodd yr ymgyrch hon ym mha bynnag rhinwedd. Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd sy’n wynebu colli eu plentyn, sefyllfa na ellir mo’i dychmygu.”

Dywedodd Kate Mann, Cyfarwyddwr Cyswllt Cowshed: “Yn Cowshed rydym wedi ymrwymo i wneud gwaith ystyrlon ar gyfer achosion rydym yn credu ynddynt. Roedd hi’n fraint enfawr cael gweithio gyda thîm Tŷ Hafan, ein helusen ddewisol ar gyfer 2022, i helpu i adrodd hanes y teulu Jeans er cof am Rose. Y cydweithio rhwng y teulu Jeans, y timau codi arian a chyfathrebu a Cowshed yw’r hyn wnaeth yr ymgyrch hon yn un wirioneddol arbennig. Cafodd yr ymgyrch effaith enfawr ar y tîm yn Cowshed, a byddwn ni bob amser yn cofio Rose a’i hetifeddiaeth a fydd yn sicrhau bod mwy o deuluoedd yn cael y gofal unigryw hwn.”